Owain Gwynedd
Owain Gwynedd fu’n dyfarnu ei gêm ryngwladol gyntaf nos Fercher – a chael cip ar gyfleusterau tîm cenedlaethol Ffrainc hefyd …
Os ydach chi eisoes wedi prynu rhifyn diweddara Golwg (dwi heb eto) mi fyddwch chi’n gwybod fy mod i wedi bod yn dyfarnu gêm rygbi ym Mharis nos Fercher (dyma esgus fi am beidio prynu copi, be am un chi?) – Ffrainc dan 19 v Siapan dan 19.
I chi sydd heb brynu’r rhifyn (well i chi neud oherwydd dwi ynddo fo!) dwi wedi dyfarnu fy ngêm rygbi rhyngwladol gyntaf!
Fel y buasai unrhyw ffan rygbi yn dyfalu, ar bapur mi ddylsa Ffrainc ennill hon yn hawdd a dyna ddigwyddodd. Ffrainc 57-14 Siapan.
Mi oedd tîm Siapan, fel bysa rhywun yn dychmygu, llawn brwdfrydedd ac egni ac efo ambell i redwr twyllodrus a chwim. Mi oedd ei wythwyr a maswr o darddiad Ynysoedd y Môr Tawel a chlamp o fechgyn oeddent o ystyried eu hoed.
Fodd bynnag mi oedd cryfder a phŵer tîm Ffrainc yn ormod i fechgyn ffit ond ar y cyfan tila Siapan.
Cyfathrebu cymysglyd
Yn ffodus i mi ges i asesiad calonogol gan yr aseswr, a oedd yn ddyn yn wreiddiol o Loegr ond wedi byw yn Ffrainc ers chwarter canrif, felly yn amlwg mi ro’n i’n eithaf hapus.
Wrth gwrs mi oedd hyn er gwaethaf y diffyg dealltwriaeth a chyfathrebu a oedd yn naturiol am ddigwydd rhwng bachgen o Borthmadog, efo’i acen gref gog oedd prin yn gallu cofio ei TGAU Ffrangeg, a bechgyn o Ffrainc, heblaw un neu ddau, oedd yn cael trafferth deall Saesneg.
Dyna oedd y newyddion da, o ran cyfathrebu oherwydd doedd gen i ddim gobaith caneri o siarad unrhyw air o Siapanaeg, a’r unig ffordd nes i oroesi oedd diolch i gyfieithydd oedd yn rhan o garfan Siapan.
Fe gyfieithodd ef bopeth cyn y gêm, a’r ddau fachgen o Ynysoedd y Môr Tawel a oedd efo ychydig, a dwi’n golygu ychydig, o Saesneg.
Busnesu ar y Ffrancwyr
Er hynny mi wnes i fwynhau’r gêm ar amser ges i grwydro strydoedd Paris, ond y peth gora’ oedd cael busnesu tu ôl i len yr FFR (French Federation de Rugby) yn Marcoussis, ar gyrion de Paris. Yn fan ‘ma gafodd fy ngêm i’w gynnal a fan ‘ma ydi canolfan rygbi Ffrainc.
Roedd o’n gyfle gwych i gymharu cyfleusterau Undeb Rygbi Cymru (URC) yn y Vale, lle dwi’n hyfforddi o bryd i’w gilydd, a chyfleusterau Ffrainc. Yn fyr, mae be sydd ar gael i dimau Ffrainc yn fwy ac os rhywbeth yn well.
Er hynny, fel dywedodd aelod o staff yr FFR ac un o fy nyfarnwyr cynorthwyol am y noson, Stephane Duberger, nad ydi arian a chyfleusterau yn prynu llwyddiant. Mae safle Ffrainc a Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn brawf o hynny.
Mi oedd popeth o fewn tafliad carreg i’w gilydd. Gwesty moethus a oedd yn cynnwys sawl bwyty, ystafell gyfarfod, bar, pyllau nofio a siŵr o fod mwy.
Chwaraewyr ynysig
Mi oedd un aden yn cael ei neilltuo i dîm cyntaf Ffrainc pan oeddent yn ymarfer. Yn yr aden yma roedd ganddynt eu hystafelloedd gwely, pwll nofio a bwyty eu hunain. Doedd ddim angen iddyn nhw gymysgu, a doedd dim disgwyl iddynt wneud, ag unrhyw berson tu allan i’r garfan.
Mae disgwyl i’r chwaraewyr ganolbwyntio 100% ar y rygbi a hynny 24/7 o beth welais i. All rhywun ddadlau os ydi hynny’n syniad da neu beidio?
Er mwyn mynd i ymarfer dim ond croesi lôn eitha’ cul oedd angen. Wel, i osgoi cymysgu efo unrhyw un, mi oedd yna font yn cysylltu’r gwesty ar brif eisteddle, a oedd yn cynnwys campfa, ystafelloedd ffitrwydd, newid, ffysio a phob ystafell arall oedd angen ar chwaraewr rygbi. Yn llythrennol doedd dim angen cymysgu â neb.
Yn gefn i’r eisteddle roedd cae artiffisial, oedd ddim yn faint llawn, ond dan do. A phan dwi’n deud dan do, dim ond to oedd yna, dim ochrau o gwbl. Siŵr o fod nad oedd angen cysgod iawn gan fod y tywydd fel rheol mor neis – roedd o’n edrych yn cŵl beth bynnag.
O flaen yr eisteddle roedd pum cae maint llawn mewn rhes ochr wrth ochr. Os doedd hynny ddim yn ddigon mi oedd cae artiffisial bach arall i gael hefyd.
Gofal i’w hieuenctid
Be darodd fi mwy na’r cyfleusterau oedd y gefnogaeth i chwaraewyr y tîm dan 19. Mi oedd pob un o’r chwaraewyr o ddydd Llun i Wener yn byw yn Marcoussis. Y peth agosaf dwi’n tybio gall rhywun 18 fod i chwaraewr llawn amser.
Mi oeddent yn cael popeth gan yr FFR. Hyfforddiant rygbi, ffitrwydd, adloniant a hyd yn oed eu haddysg drwy’r tymor yn Marcoussis. Yna ar benwythnos mi fyddwn nhw’n dychwelyd i’w clybiau i chwarae.
Mi oedd y trip, er gwaetha’r tair awr o oedi yn y maes awyr i ddod adra, yn wych ac yn agoriad llygad. Dim ond gobeithio gallaf am drip tebyg yn y dyfodol – croesi bysedd.
Gallwch ddarllen y portread o Owain Gwynedd yn Golwg yr wythnos hon, a’i ddilyn ar Twitter ar @owaingwynedd.