Rhys Hartley
Blogiwr pêl-droed golwg360 Rhys Hartley fu’n dyst i gêm ryfedd ar y naw yn Sawbridgeworth …
Er i mi ddiolch i fy nghariad am ddod ‘da fi i Luton ar benwythnos San Ffolant, mi fu’n rhaid i mi wneud yr un fath o gymwynas â hi penwythnos d’wetha gan fynd â hi i Reading, ond nid ar gyfer pêl-droed.
Roeddwn i yn yr Iseldiroedd ddydd Llun fel rhan o gynllun ymchwil rwy’n rhan ohono, felly bu’n rhaid i mi aros tan Nos Fawrth cyn gweld gêm yr wythnos yma. A diolch i ryw gynllwynio gwych, fe lwyddais i lanio yn Stansted am 5.45 gyda Clapton yn chwarae am 7.45 yn Sawbridgeworth, cwta hanner awr o siwrne i ffwrdd.
Fel ein clybiau Cymreig ni sy’n chwarae yn y cynghreiriau Seisnig mae Sawbridgeworth yn chwarae yng Nghynghrair Uwch Essex, er bod y pentref ei hun yn Swydd Hertford.
Clapton pwy?
Roedd ychydig o amser ‘da fi i gicio’n sodlau cyn i’r criw gyrraedd o Lundain, felly i’r dafarn â fi … yr unig adeilad mewn golwg. Doedd y barman erioed wedi clywed am Clapton a ‘drychodd e’n hurt arnom ni wrth i ni weud ein bod wedi teithio’r holl ffordd yno i wylio gêm bêl-droed.
O’r dafarn, roedd hi’n wâc dywyll lan heol wledig cyn cyrraedd y pentref go iawn. Wedi arfer â sŵn a goleuadau Llundain, roedd hi’n hunllefus o dawel a thywyll gyda dim golwg o’r llifoleuadau.
Bu’n rhaid, wrth gwrs, i ni stopio mewn siop er mwyn prynu caniau o gwrw ar gyfer y gêm. Dim ond losin a DVDs oedd ar gael yn y siop gyntaf ond roedd gan yr ail ychydig mwy o ddewis. Er, doedd dim lagyr Pwylaidd, diod arferol y ‘Clapton Ultras’.
Diolch byth, dim ond dau gan nes i brynu achos dim ond saith punt oedd ar ôl ‘da fi er mwyn talu am fynediad i’r gêm. Roedd y tri stiwdant yn ein plith, gan gynnwys fi, yn gwingo wrth dalu ar y giât.
Cawsom raglen am ddim ond doedd hynny’n fawr o gysur gan ein bod yn talu £4 yn fwy na’r pris arferol.
Lleisiau deg yn groch
Ond chwarae teg i’n gwesteion ni, roedd y cae yn wych gyda’r llinellau yn syth, sy’n fwy nac y gall unrhyw un weud am faes yr ‘Old Spotted Dog’ lle mae gofalwr y cae’n feddw bob gêm.
Dim ond deg ohonom wnaeth fentro i’r gogledd y tro hwn ond, fel arfer, roedd yna ganu di-dor am y 90 munud. Yn anffodus, doedd ein bag llawn baneri heb gyrraedd a bu’n rhaid i ni ddibynnu ar ein sgarffiau er mwyn ychwanegu bach o liw.
Oce, mae deg cefnogwr yn swnio’n shimpil ond roeddem ni yn falch o gyrraedd ffigyrau dwbl gan mai ond ugain o gefnogwyr cartref oedd yn bresennol, ta beth. Cawsom eiriau cynnes gan eu cefnogwyr a’u chwaraewyr nhw ar ddiwedd y gêm hefyd.
Yn erbyn tîm oedd wedi ennill 12 gêm o’r bron, roedd angen bach o lwc ond, er gwaetha’ ein hymdrechion i ddylanwadu’r dyfarnwr, ni aeth yr un penderfyniad ein ffordd ni.
Gwrthodwyd gôl tra oedd y gêm dal yn ddi-sgôr er i’r sgoriwr ddechrau ei rediad o bum llathen y tu ôl i’r amddiffynnwr. O’r gic rydd, fe aeth y tîm cartref yn syth lan y pen arall a sgorio. 1-0.
Pum munud o wallgofrwydd
Aeth pethau o ddrwg i waeth yn yr ail hanner. Ar ôl cyfnod addawol ar y dechrau, dyblodd Sawbridgeworth eu mantais o gic gornel, cyn i ni weld pump o’r munudau mwyaf rhyfedd erioed mewn gêm bêl-droed.
Rhedodd gôl-geidwad Clapton, yn chwarae am y tro cyntaf yn lle ‘Rhif 1 Senegal’ a oedd ar ei wyliau, hanner ffordd lan y cae, methu’r bêl, ac fe aeth yr ymosodwr tua’r gôl wag a’i tharo hi mor bwerus â phosib. Er mawr syndod i ni i gyd daeth y bêl yn syth yn ôl, ymddengys o ffrâm y gôl, ac wele ben yr ymosodwr yn ei ddwylo.
Be’ ddiawl ddigwyddodd? Doedd neb yn gwybod. Cliriwyd y bêl cyn i’r dyfarnwr fynd draw at ei lumanwr a … rhoi’r gôl. Trodd y dyfarnwr glust fyddar i brotestiadau’r ymwelwyr a’r cefnogwyr ac fe ailddechreuwyd y gêm. 3-0.
Yna digwyddodd bron union yr un peth eto, wrth i’r golwr fethu’r bêl hanner ffordd drwy ei hanner ei hun, a’r tro yma yn cicio ei amddiffynnwr ei hun yn lle’r bêl. Aeth yr un ymosodwr a’r bêl a’i phasio, y tro yma, i gefn y rhwyd. 4-0.
Neu felly o’n ni’n ei feddwl. Ond chwibanodd y dyfarnwr am gic rydd … i’r ymwelwyr. Roedd y siant ‘Does gennyt ti ddim syniad!’ yn fwy addas nag erioed o’r blaen. 3-0 eto.
Brwydrodd chwaraewyr Clapton tan y funud olaf, ac fe gafwyd gôl gysur gyda munudau yn weddill, ond roedd hi’n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.
Daeth y rheolwr draw atom ni ar ddiwedd y gêm gan ddiolch am ein cefnogaeth ac esbonio pam wnaeth e ddewis y tîm yma – roedd yn cadw’r chwaraewyr gorau at y gêm gwpan nos Iau.
Rwy’n edrych ymlaen at deithio i’r gogledd o’r M25 unwaith yn rhagor, y tro hwn i Eton Manor. Gobeithio wrth i chi ddarllen hwn y bydd Clapton wedi cyrraedd y rownd nesaf, ie, rownd gogynderfynol Cwpan Goffa Gordon Brasted!
Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.