Mae Warren Gatland wedi gwneud chwe newid i’w dîm y penwythnos yma, ond Rhys Jones sy’n pendroni tybed a welwn ni newid mewn arddull hefyd?

Prynhawn Sadwrn bydd tîm rygbi Cymru yn ceisio adfer dipyn o hunan-barch ar ôl colli i Loegr y penwythnos diwethaf.

Yr Albanwyr fydd y gwrthwynebwyr y tro hwn, ac ar ôl dod o fewn trwch blewyn i guro Ffrainc wythnos yn ôl, mae’n siŵr y byddant yn cyrraedd Caerdydd yn weddol hyderus.

Y perfformiad, nid canlyniad

Mae’n rhaid cydnabod mai perfformiad siomedig iawn a gafwyd gan Gymru yn erbyn Lloegr.  Efallai ein bod wedi disgwyl gwell yn dilyn y grasfa a roddwyd i Ffrainc.

Nid y colli oedd y siom fwyaf, ond y modd y collwyd. O ddechrau’r gêm hyd y diwedd cafwyd llawer iawn o gicio hollol ddibwrpas gan ildio’r meddiant dro ar ôl tro.

Rhaid gofyn ai dilyn cyfarwyddyd yr hyfforddwyr a wnaeth y chwaraewyr, neu ai penderfyniad unigolion oedd y cicio parhaus.

Pwy bynnag oedd yn penderfynu ar y cicio, yn sicr dylai’r hyfforddwyr fod wedi gweld nad oedd y dacteg yn gweithio a sicrhau bod neges yn cael ei chyfleu i’r chwaraewr newid y patrwm.

Mae llawer wedi pwyntio bys at y mewnwr a’r maswr ond rhaid cofio na chawsant y meddiant glân a gafwyd yn erbyn Ffrainc.  Ar ôl dweud hynny yr oedd Rhys Priestland yn edrych yn hollol ddihyder ac yn y diwedd yr oedd rhywun yn cael y teimlad ei fod yn falch o gael gadael y cae.

Hefyd am ryw reswm fe wnaeth gêm y prop Gethin Jenkins ddioddef yn fawr. Nid wyf yn derbyn y ddadl y dylai ystyried ymddeol fel chwaraewr rhyngwladol, oherwydd cafwyd perfformiad cryf iawn ganddo yn erbyn Ffrainc – yn wir ef oedd seren y gêm honno.

Mae un peth yn sicr. Mae’n rhaid i weinyddwyr y gêm a’r dyfarnwyr gydweithio i gael trefn ar y sgrym neu mae’r gêm yn mynd i ddioddef yn arw.

Tactegau trwsgl

Mae’n briodol gofyn hefyd a yw’r gwrthwynebwyr wedi deall tactegau gêm Gatland erbyn hyn ac yn llwyddo i atal Cymru rhag chwarae.

Onid yw’n bryd iddo lyncu tipyn o’i falchder a chydnabod bod yn rhaid cael cynllun B ac efallai cynllun C os ydym am lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol bellach?

Rhedwyr greddfol naturiol yw olwyr Cymru, ond anaml iawn y gwelwn y bêl yn mynd drwy’r dwylo yn gyflym o’r mewnwr i’r asgell i ddangos y doniau sydd ganddyn nhw.  Fel y gwelwyd yn erbyn Lloegr, dim ond cicio cywir Leigh Halfpenny at y pyst wnaeth ein cadw yn y gêm.

Ond y gwir yw nad oedd y pwyntiau ar y sgôrfwrdd yn adlewyrchiad teg o feistrolaeth y tîm cartref.

Newidiadau gorfodol?

Er nad yw Gatland yn un sy’n gwneud llawer o newidiadau, mae yna chwech newid i’r tîm fydd yn herio’r Alban.

Yn ôl y disgwyl daw Liam Williams i mewn fel cefnwr gan fod Leigh Halfpenny wedi ei anafu.  Er ei fod yn chwaraewr anturus a dewr mae’n rhaid i Williams ddysgu rheoli ei dymer ar adegau er lles y tîm.

Yr haneri yw’r ddau newid arall ymysg yr olwyr. Mae Mike Phillips a Dan Biggar yn cael cyfle i chwarae gyda’i gilydd ac fe ddylai’r ddau greu partneriaeth effeithiol gan iddyn nhw gyd-chwarae i’r Gweilch.

Rhaid cofio bod mewnwr y Gweilch Rhys Webb wedi ei anafu yn erbyn Lloegr.  Mae’n debyg mai Biggar fydd yn derbyn y cyfrifoldeb o gicio at y pyst, ac fe fydd ganddo dipyn o dasg i lenwi esgidiau Halfpenny sydd wedi cicio’n ardderchog yn ystod y Bencampwriaeth.

Beth am y newidiadau ymysg y blaenwyr? Er i Hibbard gael gêm ddigon effeithiol yn erbyn Lloegr rhaid dweud bod Ken Owens yn dod a rhyw egni brwdfrydig i’r tîm bob tro y daw oddi ar y fainc ac mae’n deg iddo gael cyfle i ddechrau’r gêm.

Er nad yw’r prop Rhodri Jones yn dechrau’n gyson i’r Scarlets mae’n amlwg bod gan hyfforddwyr Cymru dipyn o feddwl ohono ac mae’n disodli’r Llew Adam Jones sydd ddim wedi bod ar ei orau yn ddiweddar.

Camp Gethin

Er bod amheuaeth a fyddai Gethin Jenkins yn dechrau yn dilyn dwy garden felen yn y bencampwriaeth mae’r tîm hyfforddi wedi cadw ffydd ynddo, ac mae’n rhaid i Paul James fodloni ar le ar y fainc unwaith eto.

Bydd Jenkins yn ennill cap rhif 105 dydd Sadwrn ac ef bellach fydd â’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru gan fynd un yn well na Stephen Jones. Tybed a’i dyma’r diwedd i Jenkins yng nghrys coch ei wlad?

Daw Luke Charteris mewn i’r ail reng ar ôl gwella o anaf i’w wddf. Yn sicr bydd ei daldra yn gaffaeliad yn y llinellau. Ar ôl dau berfformiad effeithiol, ar y fainc y bydd Jake Ball yn dechrau yn erbyn yr Alban.

Er bod chwe newid i’r tîm, dim lle i James Hook yn y pymtheg fydd yn dechrau, ond fe fydd ar y fainc.

Tybed a’i dyma’r tîm fydd yn llwyddo i drechu’r Albanwyr, ac a welir newid tactegau yn ogystal â newid chwaraewyr?