Llywelyn Williams
Wedi’r seibiant bach a gafwyd y penwythnos diwethaf, mi fydd y ddau glwb wrth eu boddau o ddod nôl i’r cyffro o geisio sicrhau buddugoliaeth bnawn Sul, yn enwedig a hwythau yn elynion hanesyddol.

Ond mae bwlch sylweddol wedi bod yn y tabl rhwng y ddau glwb eleni, gyda Lerpwl ar hyn o bryd yn yr ail safle gyda 59 o bwyntiau a Man U yn chweched gyda 48 o bwyntiau.

Mae hyn wrth gwrs yn hollol wahanol i’r sefyllfa y tymor diwethaf pan oedd tîm Sir Alex Ferguson yn gorwedd yn gyfforddus ar frig y tabl, a Lerpwl yn straffaglu o gwmpas ble mae Man U yn sefyll heddiw.

Er y gwahaniaethau o ran y perfformiadau, mae’n anodd iawn penderfynu pwy sydd orau rhwng y ddau pan mae’n dod i’r gêm hon.

Mewn gornest fel hon, does yna’r un yn arglwyddiaethu’n gyson dros Ogledd Orllewin Lloegr, mae’n frwydr agos pob tro dim ots pa mor wael mae’r clwb yn ei wneud yn y gemau eraill, a does yna neb yn gallu rhagdybio buddugoliaeth i’r naill ochr a’r llall.

Rhediad cadarnhaol Lerpwl

Mae Lerpwl yn ddiguro yn 2014, gyda phedair gêm yn olynol wedi’i hennill ar y trot.

Mae’n galonogol i Brendan Rodgers mae’n siŵr bod Lerpwl efallai wedi cael gwell gafael ar yr amddiffyn, o ystyried y fuddugoliaeth o 3-0 i ffwrdd yn Southampton, tîm sydd wedi disgleirio mewn nifer o achosion y tymor hwn.

Ond mi fydd rhaid i Lerpwl dorri lawr ar y camgymeriadau gwirion, a bydd rhaid i Martin Skrtel fod yn bwyllog o ran achosi ciciau cosb, neu yn waeth, ciciau o’r smotyn!

Rhediad cymysglyd Man U

Mae Man U ar rediad taclus diguro ers pedair gêm yn yr Uwch Gynghrair hefyd ers mis Chwefror, ond roedd y golled yn erbyn Olympiakos i ffwrdd yn Ewrop yn dangos pa mor anghyson bu canlyniadau’r clwb yn ystod y flwyddyn.

Bydd pwysau enfawr arnyn nhw i wneud yn iawn gartref yn erbyn Olympiakos yn ogystal ag ennill gartref yn erbyn Lerpwl, ond a fydd y pwysau yn ormod iddyn nhw?

Y tueddiad yw i dîm David Moyes godi gêr yn erbyn y timau mawrion (dyna oedd hanes Everton pan oedd wrth y llyw hefyd) e.e. y fuddugoliaeth gartref yn erbyn Arsenal ddechrau tymor pan roedd Arsenal ar frig y gynghrair pryd hynny.

Mi fydd United yn gobeithio manteisio ar wendid amddiffynnol Lerpwl wrth wrthymosod â’r ‘set pieces’ yn ogystal, gyda Lerpwl yn ceisio ymosod a chadw’r bêl yn dwt yng nghanol y cae gyda thipyn o gydweithio rhwng Coutinho, Sterling, Suarez a Sturridge fel ‘uned’ greadigol.

Mae United wedi cryfhau’r elfen ymosodol yn y canol drwy arwyddo Juan Mata, felly bydd raid i unigolion fel Steven Gerrard gadw golwg barcud arno trwy gydol y gêm oherwydd ei ddawn greadigol tu allan i’r bocs, gan sgorio goliau allan o nunlle mewn rhai achosion hefyd.

Suarez/Sturridge v Van Persie/Rooney

Mi fydd y cefnogwyr o’r naill ochr yn edrych ymlaen at yr agwedd ymosodol, ac yn ysu iddyn nhw gael y gorau bnawn Sul. Mae pawb yn gwybod am ddawn Rooney a Van Persie, ymosodwyr ar y lefel uchaf posib, ond mae pethau wedi mynd o chwith mewn rhai gemau mae’n rhaid dweud.

Y canlyniad?

Wel … mae’n rhy agos i mi benderfynu’r naill ochr neu’r llall, ond rwy’n gwybod yn iawn pwy dw i eisiau ennill, oherwydd mae’r clwb hwnnw’n agos iawn i fy nghalon i. Felly, er mwyn cadw’r blog yn ddiduedd, well i mi beidio dweud dim byd mwy! Ond dyma pwy dwi’n credu bydd yn dechrau’r gêm:

Man U: De Gea, Rafael, Vidic, Jones, Evra, Carrick, Valencia, Januzaj, Mata, Rooney, Van Persie

Lerpwl: Mignolet, Johnson, Skrtel, Agger, Flanagan, Gerrard, Henderson, Coutinho, Sterling, Suarez, Sturridge