Er bod Cymru’n methu â dal eu gafael ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae’r hyfforddwr Warren Gatland yn mynnu fod y gêm yn erbyn Yr Alban yfory yn parhau yn un bwysig.
Ac mae’n disgwyl gweld y Jocks yn tanio yng Nghaerdydd.
‘‘Maen nhw wedi curo’r Eidal ac rwy’n siwr eu bod yn siomedig ar ôl colli i Ffrainc ar ôl perfformiad hyderus y penwythnos diwethaf. Maen nhw wedi gofyn am gau’r to, sydd yn dangos eu bod yn hyderus iawn,’’ meddai Warren Gatland.
Chwe newid sydd i dîm Cymru a gollodd yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
‘‘Rydym wedi nodi’r pethau oedd angen eu gwella. Nid oedd y strategaeth o gicio yn ddigon da ac o ran gwrth-ymosod, nid oeddem yn gallu cadw’r bêl am gyfnod hir. Yr wyf yn fwy na pharod i bobl feirniadu’r ffordd y gwnaethon ni chwarae. Does neb yn fwy beirniadol o’r gêm a’r chwarae nag yr ydym ni ein hunain. Mi wnaethon ni osod safonau uchel a chwarae’n dda yn y tymhorau diwethaf,’’ ychwanegodd Gatland.
Cadw’r ffydd yn Gethin
Er i brop Cymru Gethin Jenkins dderbyn dwy garden felen yn y Bencampwriaeth, mae hyfforddwr Cymru wedi dangos ffydd ynddo a bydd yn ennill cap rhif 105 yfory, gan fynd un yn well na chyn-faswr Cymru, Stephen Jones.
‘‘Mae’n rhaid i ni gadw ffydd ynddo, rydym wedi gweithio’n galed yn y sgrym,” meddai Warren Gatland.
“Fel chwaraewr cystadleuol tu hwnt does neb yn well na Gethin. Mae eisiau ennill pob gêm. Mae’n garreg filltir arbennig iddo. Mae wedi bod yn was ffyddlon i Gymru ac mae’n haeddu pob clod.”