Rhag ofn i chi fod yn byw o dan garreg yn ystod yr wythnos diwethaf, mae’n anhebygol i chi fod wedi osgoi unrhyw sôn am y gêm fawr fydd yn digwydd ddydd Sul yn y Chwe Gwlad.
Ie, mae’n amser Cymru vs Lloegr unwaith eto, gyda’r Saeson yn ysu am dalu’r pwyth i’r Cymry ar ôl y grasfa gawson nhw’r llynedd wrth i’r Cochion ennill y Bencampwriaeth.
Gohebydd golwg360 Rhys Jones a’n blogwyr rygbi Owain Gwynedd ac Owain Gruffudd sydd yn trafod y gêm ar y pod heddiw, gyda’r tri yn gobeithio am ganlyniad positif yn Nhwickenham.
Ac a yw’r Cymry wir yn casáu’r Saeson pan mae’n dod at rygbi, fel sydd wedi cael ei honni gan rai o garfan Lloegr yr wythnos hon?
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt