Alun Wyn Jones yn y canol
Ar drothwy’r gêm fawr rhwng Cymru a Lloger ddydd Sul mae clo Cymru wedi canmol partneriaeth ail-reng Lloegr, sef Courtney Lawes a Joe Launchbury.

‘‘Nhw sydd wedi hawlio’r sylw yn y gystadleuaeth cyn belled, maen nhw wedi bod yn arbennig i Loegr,” meddai Alun Wyn Jones.

“Yn erbyn Iwerddon, roedd Launchbury yn chwarae fel rheng-ôl yn ogystal ag yn safle’r clo, sy’n ei wneud yn allweddol tu hwnt i lwyddiant y  blaenwyr.”

Fe wnaeth Alun Wyn Jones golli’r fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc oherwydd anaf, ond mae’n ymuno â Luke Charteris yn yr ail-reng ar gyfer herio Lloegr b’nawn Sul.

Lloegr yw’r ffefrynnau

‘‘Rydym yn chwarae oddi cartref felly mi fydd hi’n gêm anodd,” meddai Alun Wyn Jones.

“Rwy’n credu mai Lloegr yw’r ffefrynnau oherwydd ein perfformiad yn erbyn Iwerddon.  Fel tîm, rydym yn chwarae’n dda dan bwysau ac ers gêm Iwerddom rydym wedi bod dan bwysau i berfformio.  Fe wnaethon ni ymateb i’r her yn erbyn Ffrainc ac mae’n bwysig i ni barhau â pherfformiad tebyg dydd Sul,’’ ychwanegodd.

‘‘Mae’n achlysur arbennig i’r cefnogwyr ac rwy’n siwr bydd nifer o bobl yn tynnu coes ar y rhwydweithiau cymdeithasol ynglŷn â’r gêm.  Ond o ran y tîm, mae’n bwysig i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae, a dim byd arall.’’