Wedi buddugoliaeth Cymru’n erbyn Gwlad yr Iâ, mae criw y Pod Pêl-droed yn awchu i drafod y gêm a dadansoddi perfformiad tîm Chris Coleman.
Wedi ei gap cyntaf ar y Pod ynghynt yn yr wythnos, mae Aled Morgan Hughes yn ôl ac yn ymuno â Gohebydd Aml-gyfrwng Golwg360, Iolo Cheung ac Owain Schiavone.
Yn ogystal ag argraffiadau cyffredinol am y perfformiad, mae’r criw yn trafod chwaraewyr unigol a greodd argraff gan gynnwys Emyr Huws yn ei ymddangosiad cyntaf, ac wrth gwrs yr enw ar wefusau pawb, Gareth Bale.