Vincent Tan
Mae chwaraewr canol cae Caerdydd Aron Gunnarsson wedi gwadu clywed unrhyw beth am fonws honedig gafodd ei gynnig gan Vincent Tan, gan ddweud fod y perchennog yn “darged hawdd” i feirniaid.

Bu adroddiadau yn y cyfryngau’r wythnos diwethaf fod Tan wedi cynnig £3.7m i chwaraewyr Caerdydd petaen nhw’n llwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor – bonws a fyddai wedi torri rheolau’r gynghrair.

Mae Caerdydd wedi bod yn cael trafferth ar y cae yn ddiweddar, ac yn 19eg yn nhabl yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd. Yn ôl y Daily Mail fe gynigiodd Tan yr arian i’r chwaraewyr yn yr ystafell newid cyn gêm Caerdydd yn erbyn Tottenham y penwythnos diwethaf.

Nes ymlaen, fe ddywedodd  Tan wrth y papur ei fod wedi tynnu’r cynnig yn ôl pan sylweddolodd ei fod yn torri rheolau.

“Heb glywed” am fonws

Awgrymodd Gunnarsson fod yr holl sylw ar weithredoedd Tan dros y misoedd diwethaf – gan gynnwys diswyddo’r rheolwr Malky Mackay – wedi bod yn chwarae ar feddyliau rhai o’r chwaraewyr.

Ond fe wadodd ei fod wedi clywed unrhyw beth am fonws, gan ddweud fod y chwaraewyr yn ceisio anwybyddu’r drafodaeth ynglŷn â pherchennog y clwb.

“Dydi o’n ddim byd i’w wneud efo ni a dweud y gwir [bod Tan wedi dod i’r ystafell newid],” meddai Gunnarsson wrth siarad ar ôl buddugoliaeth Cymru dros Wlad yr Ia nos Fercher.

“Rydyn ni’n trio ffocysu ar ein peth ni, sef chwarae pêl-droed, a dyna’r unig beth allwn ni wneud.

“Fe allwch chi ddweud ei fod e [Tan] yn darged hawdd, gan ein bod ni yn y safle yma. Ond fel dwedais i rydyn ni’n ffocysu ar bethau ac wedi delio â’r peth yn eithaf da dros y tri neu bedwar mis diwethaf.

“Nes i ddim clywed unrhyw beth [am y cynnig o fonws], felly dwi ddim yn siŵr am beth mae pawb yn sôn. Fel dwedais i, mae’n darged hawdd.”

Gêm allweddol yn erbyn Fulham

Bydd Caerdydd yn chwarae gartref y penwythnos yma yn erbyn Fulham, y tîm sydd un safle yn is na nhw ar waelod y tabl.

Ac mae Gunnarsson yn cyfaddef y bydd pwy bynnag sy’n colli’r gêm honno’n wynebu her anodd tu hwnt i aros yn y gynghrair.

“Dyma beth ydych chi’n galw’n six pointer,” meddai Gunnarsson, sydd hefyd yn gapten ar Wlad yr Ia. “Efallai y bydd un o’r timau … dw i ddim yn gwybod, fe fydd hi’n gêm anodd.

“Fe fyddwn nhw’n ymladd am y pwyntiau, maen nhw angen tri phwynt hefyd, mae’n rhaid i ni efelychu hynny a gobeithio bod gennym ni’r ddawn ychwanegol yna yn ein tîm a bod yn well na nhw.

“Mae gennym ni tipyn o gemau’n dod fyny y mae’n rhaid i ni ennill ac mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau. Gobeithio y gwnawn ni barhau i ymladd a chael y pwyntiau sydd angen arnom, rydyn ni wir eu hangen ar hyn o bryd.

“Fe weithion ni mor galed i gyrraedd y gynghrair yma felly dydyn ni ddim am roi’r ffidil yn y to.”