Jamie Roberts
Mae canolwr Cymru Jamie Roberts wedi dweud y bydd y gêm yn erbyn Lloegr yn achlysur arbennig i bawb fydd ynghlwm â’r gêm.

Bydd Jamie Roberts yn dechrau yn safle’r canolwr wrth i Gymru herio Lloegr yn Twickenham, gyda’r ddwy ochr yn edrych i gadw eu gobeithion yn fyw i gipio’r Bencampwriaeth.

‘‘Mae hi bob amser yn gêm enfawr, i ni ac i’r cefnogwyr, ac mae Twickenham yn lle arbennig i chwarae rygbi.  Mi fydd y chwaraewyr yn llawn cyffro a does dim gennym i’w hofni yno,’’ meddai Jamie Roberts.

Yn rheoli’r canol cae gyda Roberts mae Jonathan Davies yn dychwelyd ar ôl perfformiad cadarn i’r Scarlets yn erbyn Munster dros y penwythnos ar ôl iddo dderbyn anaf yn ystod gemau’r Hydref yn erbyn De Affrica.

Nid yw’r bartneriaeth canol cae yma wedi ymddangos ers disgleirio yng ngêm olaf y Llewod yn ystod yr Haf, gyda Jamie Roberts yn colli’r gemau Hydref oherwydd anaf i’w bigwrn.

‘‘Mae cael John nôl yn hwb enfawr i ni fel tîm, mae’n cryfhau’r olwyr o ran amddiffyn ac ymosod.  Rydym wedi chwarae gyda’n gilydd ar sawl achlysur i Gymru ac yn deall ein gilydd yn iawn,’’ ychwanegodd Roberts.