Aron Gunnarsson
Does dim llawer allwch chi wneud i stopio Gareth Bale unwaith mae ar ei orau, yn ôl un o chwaraewyr Gwlad yr Ia a geisiodd ei orau i ffrwyno’r ymosodwr neithiwr.
Aron Gunnarsson oedd un o’r chwaraewyr yng nghanol cae i’r ymwelwyr neithiwr, ond er gwaethaf ei ymdrechion Bale ddygodd y sioe gyda gôl unigol wych i goroni perfformiad campus arall.
Gunnarsson wnaeth droseddu yn erbyn Bale ar gyfer cic rydd Cymru a arweiniodd at y gôl gyntaf, ac fe gyfaddefodd chwaraewr canol cae Caerdydd mai dyna oedd yr unig ffordd o’i stopio ar adegau.
“Mae gan [Gymru] chwaraewr gwych yn Gareth Bale, roedd o ar ben ei gêm heddiw,” meddai Aron Gunnarsson ar ôl y gêm. “Roedd hi’n anodd iawn ei farcio.
“Mae wedi bod yn chwarae’n dda i [Real] Madrid, felly mae’n mynd i ddod yma a chwarae’n llawn hyder. Mae’n anodd iawn wynebu chwaraewr fel yna.
“Y cyflymder mae’n rhedeg tuag at amddiffynwyr, mae’n anodd amddiffyn yn ei erbyn heblaw eich bod chi’n ei lorio – fel wnes i ddwywaith!”
Cytunodd chwaraewr canol cae Gwlad yr Ia Gylfi Sigurdsson – gynt o Abertawe – fod Bale, oedd yn arfer chwarae gydag ef yn Tottenham, ar ei orau neithiwr.
Ac roedd hefyd yn gweld dyfodol disglair i dîm Cymru wrth edrych ymlaen at ymgyrch Ewro 2016.
“Mae’n wych, mae ganddo gymaint o gyflymder mae’n anodd tu hwnt amddiffyn yn ei erbyn,” cyfaddefodd Sigurdsson.
“Mae’n rhaid i chi jyst ceisio gwneud yn siŵr nad oes neb yn pasio iddo! Dyna’r unig ffordd o amddiffyn yn ei erbyn achos unwaith ‘dych chi’n gadael iddo redeg amdanoch chi rydych chi mewn trwbl.
“Mae gan Gymru garfan dda o chwaraewyr, Aaron Ramsey ac eraill hefyd, ac yn y dyfodol fe fyddwn nhw’n dîm cryf tu hwnt i chwarae yn eu herbyn.”