Cafodd y noson gyntaf mewn cyfres o nosweithiau criced eu cynnal yng Nghlwb Criced Ynystawe yn Abertawe nos Fawrth.

Roedd yn gyfle i’r gymuned leol drafod materion yn ymwneud â’r byd criced ar lawr gwlad trwy Gymru gyfan.

Ymhlith y siaradwyr ar y noson roedd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris, is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft a Phrif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart.

Dywedodd Hugh Morris ei fod yn awyddus i feithrin doniau cricedwyr o Gymru er mwyn iddyn nhw symud ymlaen i gynrychioli Morgannwg ar lefel sirol a Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol.

Mynegodd Peter Hybart bryder fod y rhan fwyaf o bobol ifanc sy’n chwarae criced i glybiau yng Nghymru’n rhoi’r gorau i chwarae rhwng 14 a 25 oed am nad ydyn nhw’n cael digon o gyfle i ddatblygu eu gyrfa.

Prif ofid Croft, meddai, oedd fod gormod o gyn-chwaraewyr Morgannwg yn ymddeol ac yn cynrychioli timau yn Uwch Gynghrair Cymru.

Yn ôl Croft, mae hynny’n llesteirio datblygiad chwaraewyr ifanc.

Mynegodd rhai o’r clybiau lleol bryderon am ddiffyg caeau chwarae am brisiau rhesymol a diffyg dyfarnwyr cymwys ar gyfer cynghreiriau lleol.

Problem arall, meddai’r clybiau, yw prinder timau merched a thimau anabl.

Mae modd dilyn prif bwyntiau trafod y noson ar Trydar – @alun_rhys.

Fe fydd rhagor o nosweithiau tebyg yn cael eu cynnal hyd at Fawrth 27:

Mawrth 10 – Clwb Criced Croesyceiliog

Mawrth 13 – Clwb Criced Hwlffordd

Mawrth 17 – Gwesty’r Metropole, Llandrindod

Mawrth 20 – Stadiwm Swalec, Caerdydd

Mawrth 26 – Clwb Criced Yr Wyddgrug

Mawrth 27 – Clwb Criced Bangor