Gareth Bale yn ystod gem Cymru v Gwlad yr Ia neithiwr
Yn ol adroddiadau bore ma, cafodd cefnogwyr Cymru rybudd yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr i beidio canu yn Gymraeg yn ystod y gem yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Dywedodd un o gefnogwyr Cymru, Colin Lewis wrth Golwg360 fod stiwardiaid wedi gofyn i gefnogwyr ym mhen Canton y stadiwm beth oedden nhw’n ei ganu.
Pan ddywedon nhw eu bod nhw’n canu ‘Cymru’, fe gawson nhw rybudd y byddai’n rhaid iddyn nhw adael y stadiwm pe na bae nhw’n rhoi’r gorau iddi.
Roedd gohebydd golwg360 Iolo Cheung yn y gêm neithiwr, ac fe ddywedodd fod adroddiadau wedi bod am gynnwrf anarferol yn eisteddle Canton yn ystod y gêm ond nad oedd wedi cael cadarnhad o’r honiadau.
“Roedd nifer o’n ffrindiau i yn y Canton neithiwr, yn eistedd mewn gwahanol fannau,” meddai Iolo Cheung. “Dwi wedi siarad gyda chwpl ohonyn nhw ac fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi gweld nifer o gefnogwyr yn cael eu symud o’u seddi yn ystod y gêm.
“Doedden nhw ddim yn siŵr yn union pam, ond roedd hi’n edrych ychydig yn od ac roedd ambell ffrae yn yr eisteddle.
“Cafodd cefnogwyr gyda baneri Gwlad yr Ia eu symud o’u seddi yn y Canton hefyd, ond dydyn ni ddim yn gwybod ai oherwydd eu bod yn chwifio’r baneri hynny oedd y rheswm.
“Yn sicr o ble roeddwn i’n eistedd yn y Brif Stand, roedd y Canton yn edrych ychydig yn fwy gwag yn ystod yr ail hanner.”
Roedd Cymru wedi trechu Gwlad yr Iâ o 3-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.
Mae Golwg360 wedi cysylltu â’r Gymdeithas Bel Droed ond nid oedden nhw mewn sefyllfa i wneud sylw gan nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gwynion am yr hyn ddigwyddodd.
Mae Golwg360 hefyd wedi gofyn am ymateb gan Glwb Pêl-Droed Caerdydd.