Mi fydd y gyrrwr rali Elfyn Evans yn ralio yn Guanajuato, Mecsico heddiw ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd.
Mae Evans, 25 oed, wedi creu argraff yn ystod ei dymor cyntaf ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd. Ar ôl gorffen yn chweched yn Monte Carlo ond yn methu cwblhau’r rali yn Sweden, mae nifer yn credu y gall Evans gynhyrfu’r dyfroedd ym Mecsico.
Evans yw’r gyrrwr ieuengaf M-Sport ac yn un o dri fydd yn gyrru Ford Fiesta, gan ymuno â chyn-yrwyr Fformiwla 1 Robert Kubica a Mikko Hirvonen.
Bydd y rali’n parhau yn Guanajuato dros y ddau ddiwrnod nesaf.