Gareth Bale
Ychwanegodd rheolwr Chris Coleman ei glod yntau i Gareth Bale ar ôl gweld perfformiad gwych arall gan yr ymosodwr neithiwr yn erbyn Gwlad yr Ia.

Chwaraeodd Bale ran yn nwy gôl gyntaf Cymru, gan chwipio cic rydd i Collins benio mewn a gweld Vokes yn sgorio wedi i’w ymdrech yntau gael ei atal, i roi Cymru 2-1 ar y blaen.

Ac fe ychwanegodd gôl wych ei hun i selio’r canlyniad ar ôl rhedeg o hanner ei hun cyn ergydio i gornel y rhwyd gyda’i droed chwith am y drydedd, fel y mae wedi gwneud droeon.

A phan ofynnwyd i Coleman am ei ymateb i berfformiad Bale ar ddiwedd y gêm, roedd yn ymddangos fe petai’r rheolwr wedi cyffroi cymaint â’r 13,000 o dorf oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Dwi newydd ofyn iddo am lofnod a llun!” meddai Chris Coleman. “Mae’n un o’r goreuon dwi erioed wedi gweithio efo, mae’n chwaraewyr anhygoel.

“Mae’n arf gwych i ni, yn enwedig pan mae’n chwarae fel ‘na, ac i’r bobl ddaeth i wylio’r gêm heno roedd hi werth y ffi jyst iddo ef gyda rhai o’r pethau a wnaeth e heno.”

Emyr yn gwneud argraff

Un o’r chwaraewyr eraill a ddisgleiriodd neithiwr oedd Emyr Huws, a enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yng nghanol cae ac a edrychodd yn gyfforddus drwy gydol y gêm.

Ac er ei fod yn wynebu cystadleuaeth gref yn y safle ar gyfer y gemau cystadleuol fydd yn dechrau ym mis Medi, dywedodd Coleman nad oedd wedi gwneud niwed o gwbl i’w gyfleoedd.

“Mae mewn cwmni da [yng nghanol cae],” cyfaddefodd Coleman. “Mae Andrew Crofts dal wedi anafu, Joe Ledley wedi gorfod tynnu nôl, Aaron Ramsey, felly mae gennym ni lot o chwaraewyr da yn y safle yna.

“Ond wnaeth e [Huws] ddim drwg i’w gyfleoedd, roedd hi’n gap cyntaf gwych iddo. Dyw e ddim yn hawdd, eich cap cyntaf. Ond fe ddangosodd e ddigon o hyder, aeddfedrwydd da, ac roedd yn edrych fel petai e wedi bod yno ers sbel.”

Hyder i’r Ewros

Mae Cymru bellach wedi mynd pedair gêm heb golli ar ôl y canlyniad neithiwr, ac fe sgorion nhw dair gôl mewn gêm am y tro cyntaf yn nwy flynedd Coleman wrth y llyw.

A chyda’r fuddugoliaeth dros Wlad yr Ia, tîm ddaeth yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd eleni ac sy’n uwch na Chymry yn netholiadau FIFA, roedd Coleman yn teimlo’n ffyddiog am y dyfodol.

“Dwi’n credu fod gennym ni’r gallu i sicrhau, os oes gennym ni bawb neu’r rhan fwyaf ac maen nhw’n barod wedyn mae gennym ni gyfle gwych [i gyrraedd Ewro 2016].

“Dwi ddim eisiau bod yn rhy hyderus, dwi’n gwybod sut all pethau newid mewn pêl-droed, ond dwi wedi gweld digon o’r chwaraewyr dros y ddwy flynedd diwethaf, ac yn edrych ar y grŵp sydd gennym ni – mae’r cyfrifoldeb arnom ni.

“Ond fe fyddwn ni’n dechrau heb unrhyw bwyntiau. Rydyn ni’n chwarae Andorra i ffwrdd i ddechrau, mae pawb yn dweud bod yn rhaid i ni gael tri phwynt.

“Felly beth bynnag fydd yn digwydd yn erbyn yr Iseldiroedd [yn y gêm gyfeillgar ym mis Mehefin], y gêm yn erbyn Andorra fydd ffeinal Cwpan y Byd. Ac fe fydd y gêm ar ôl honno’n ffeinal Cwpan y Byd, a’r un ar ôl honno ac yn y blaen. Dyna sut mae’n rhaid i ni edrych arnyn nhw.”