Cymru 3 – 1 Gwlad yr Iâ
Gareth Bale oedd seren y gêm wrth i Gymru drechu Gwlad yr Iâ o 3-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.
Creodd Bale y ddwy gôl gyntaf i James Collins a Sam Vokes, cyn rhwydo’r drydedd ei hun i goroni perfformiad cofiadwy.
Roedd Cymru’n edrych yn gyfforddus iawn yn yr 20 munud cyntaf, â nhw sgoriodd gyntaf wedi chwarter awr – Collins yn penio i’r rhwyd o groesiad gwych Bale.
Dihunodd Gwlad yr Iâ yn chwarter awr olaf yr hanner ac roedden nhw nôl yn y gêm cyn y toriad diolch i ergyd Johan Gudmunsson a wyrodd heibio Hennessey yn y gôl oddi-ar Ashley Williams.
Dechreuodd Cymru’r ail hanner yn hyderus ac roedden nhw nôl ar y blaen wedi 63 munud – rhediad gwych gan Bale yn arwain at ergyd a gafodd ei chlirio ar y linell, ond roedd Sam Vokes yno i benio i’r rhwyd wag.
7 munud yn ddiweddarach roedd enw Bale ei hun ar y sgorfwrdd.
Cododd seren Real Madrid y bêl yn ei hanner ai hun cyn rhedeg at yr amddiffynwr ar yr asgell dde – er i hwnnw drio ei wthio i mewn i’r dorf, dangosodd Bale ei gryfder i wthio heibio iddo cyn torri nôl ar ei droed chwith ar ymyl y cwrt ac ergydio i gornel isaf y rhwyd.
Dyna oedd cyfraniad olaf Bale wrth iddo adael y cae i gymeradwyaeth y dorf – a rheiny’n breuddwydio am yr hyn all fod gyda Bale yn arwain y tîm yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016.
Tîm Cymru
Hennessey, Gunter, Taylor, Collins (Gabbidon), A Williams (Ricketts), Allen, Huws, Robson-Kanu (Davies), King (Collison), Bale (J Williams), Vokes