Iolo Cheung sy’n blogio’n fyw o gêm Cymru’n erbyn Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Cymru 3-1 Gwlad yr Ia (Collins 14′, Vokes 63′, Bale 70′; Gudmunsson 26′)

21:36: Dyna hi’r chwiban olaf – gêm a pherfformiad y gall Chris Coleman a’i dîm fod yn falch iawn â nhw.

21:36: Cwpl o gyfleoedd hwyr i’r ymwelwyr, ond dim i boeni Hennessey yn ormodol.

21:33: Barry Horne newydd enwi Gareth Bale yn seren y gêm ar Sky. Nodi fod Emyr Huws wedi cael gêm dda iawn hefyd.

21.30: Ben Davies ar yn lle Robson-Kanu rwan.

21.27: Plant deg oed newydd ddechrau chantio ‘ogi ogi ogi’ i’r dde ohonan ni. Fe fyddwn nhw yn eisteddle Canton mewn pum mlynedd mae’n siwr …

21.21: Robson-Kanu’n cynhesu bysedd y golwr efo ergyd arall – tydi Cymru heb gael digon eto.

21.19: Hwn di’r tro cynta’ i Gymru sgorio tair o dan Coleman, os dwi’n iawn. A’r tro diwethaf i ni sgorio cymaint a hyn ers curo Norwy 4-1 yn 2011 yng ngêm olaf Gary Speed fel rheolwr. Andy King wedi dod oddi ar y cae rwan, Jack Collison yn ei le.

21.15: A dyna fo, Bale yn gadael y cae i glap haeddiannol gan y cefnogwyr, Jonathan Williams ar yn ei le. C’mon Joniesta.

21.13: Gôl wych gan Bale. Taro hi heibio’r amddiffynwr ar y linell hanner, hwnnw’n trio’i wthio oddi ar y cae, Bale yn parhau i fynd, torri mewn ar ei droed chwith a’i thanio hi mewn i gornel y rhwyd!

21.12: GÔL I GYMRU! GARETH BALE!

21.10: Ac yn ystod yr holl gynnwrf yna, Ricketts wedi dod ymlaen yn lle Ashley Williams. Joe Allen ’di’r capten rwan. Awgrym felly na fydd Bale ar am 90 munud?

21.07: Cymru nôl ar y blaen! Pêl wych gan Ashley Williams ar draws y cae i Bale, yntau’n rhedeg i mewn i’r cwrt o’r dde a saethu, yr amddiffynwr yn rhwystro ond Vokes wrth law i’w phenio hi mewn!

21.05: GÔL I GYMRU! SAM VOKES!

21.00: Ella mod i wedi canmol Emyr Huws yn rhy fuan gynna’. Mae o newydd tanio’r bêl dros y trawst o safle gwych ar ymyl y cwrt cosbi. Cyfle da iawn.

20.56: Newydd sylwi nad ydi’r Barry Horns yma heno, neu os ydyn nhw allwn ni’n sicr ddim eu clywed nhw o’r brif stand. Allwch chi ddyfalu nad oes llawer wedi digwydd yn yr ail hanner hyd yn hyn?

20.49: Cymru wedi gwneud un newid am yr ail hanner, Danny Gabbidon am James Collins yn y cefn. Bale newydd danio cic rydd o 30 llathen heibio i’r postyn.

AIL HANNER

20.43: A dwi’n siwr eich bod chi ar bigau’ch drain eisiau gwybod beth mae gwrthwynebwyr ymgyrch Ewro 2016 yn ei wneud ar hyn o bryd – wel, dyma’u canlyniadau terfynol: Bosnia 0-2 Yr Aifft, Israel 1-3 Slofacia, Andorra 0-3 Moldova, Cyprus 0-0 Gogledd Iwerddon. A Gwlad Belg yn curo Traeth Ifori 1-0 ar yr egwyl.

20.39: Rhag ofn i chi fethu’r canlyniad yn gynharach, gyda llaw, tîm dan-21 Cymru wedi colli 1-0 i Loegr yn gynharach heddiw.

20.37: Emyr Huws wedi edrych yn dda yn yr hanner cyntaf ’ma, gyda llaw. Mae’n chwarae’n ddyfnach yng nghanol cae ond yn daclus iawn efo’r bêl a ’di gweithio’n galed yn amddiffynol. Mae ’na rywfaint o debygrwydd i Joe Allen!

20.35: Felly ar ôl dechrau araf, Cymru’n codi’r tempo ac yn sgorio gôl gynnar diolch i ben Collins. Ond Gwlad yr Ia nôl ynddi hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf diolch i gôl Gudmunsson a wyrodd oddi ar Ashley Williams.

HANNER AMSER

20.33: A Robson-Kanu’n tanio un heibio i’r postyn.

20.29: Andy King yn ergydio drosodd rwan. I fod yn onest dwi ddim yn siwr faint o wthiad oedd ’na ar Vokes gynna – mi fysa Gwlad yr Ia wedi bod yn anhapus iawn petai honno wedi cael ei rhoi.

20.25: Cefnogwyr Cymru’n gweiddi am gic o’r smotyn! Vokes yn disgyn wrth drio cyrraedd croesiad King – a hynny ar ôl i Gymru roi tua 30 pas at ei gilydd.

20.20: Wel, mae hi ’di mynd bach yn fflat ers y gôl ’na.

20.14: Ych, gôl flêr i’w hildio. Sgrambl yn y cwrt cosbi, y bêl yn dod allan i’r asgellwr Gudmunsson, ac ergyd hwnnw o ochr dde y cwrt cosbi’n gwyro oddi ar Ashley Williams heibio i Hennessey.

20.12: GÔL I WLAD YR IA! JOHAN GUDMUNSSON!

20.08: Joe Allen newydd ddawnsio mewn i’r cwrt cosbi, ond yn saethu drosodd. Cymru’n dechrau creu cyfleoedd lu rwan!

20.05: Ergyd dda arall gan Bale, y golwr yn ei tharo i ffwrdd!

20.02: Bale newydd gael ergyd hefyd ar ôl rhedeg heibio i dri dyn, ond arbediad hawdd i’r golwr – Gwlad yr Ia newydd gael cyfle hefyd.

20.00: James Collins yn penio’r bêl i’r rhwyd o gic rydd Gareth Bale! Chwip o bêl dda chwarae teg, yn gwyro i mewn i’r cwrt a dim lot y gall y golwr fod wedi’i wneud.

19.59: GÔL I GYMRU! JAMES COLLINS!

19.58: Cyfle i Hal Robson-Kanu lawr yr asgell, ond mae’n penderfynu troi nôl yn lle croesi, ac yn ei cholli hi.

19.55: Gwlad yr Ia’n edrych fel eu bod nhw’n chwarae’r hen 4-4-2 – ond ar hyn o bryd nhw sydd wedi cael llawer o’r meddiant.

19.51: Dechrau digon araf i’r gêm hyd yn hyn, Bale wedi cael un rhediad i lawr yr asgell ond dim byd i gyffroi’r dorf yn ormodol. Wedi dweud, ffans y Canton yn trio’u gorau i godi’u lleisiau efo ’chydig o ‘Viva Gareth Bale’.

19.46: A dyna ni, y gic gyntaf …

19.45: Cymru sy’n chwarae mewn gwyn heno, a Gwlad yr Ia mewn glas – a Gareth Bale yn derbyn bloedd enfawr gan y cefnogwyr!

19.44: Rhydian o’r X-Factor yn arwain Hen Wlad Fy Nhadau yn fanno – swnio’n reit dda chwarae teg.

19.41: Y timau nawr allan, a’r anthemau ar fin dechrau …

19.40: Un arall i gadw llygad ar fydd chwaraewr canol cae Spurs, Gylfi Sigurdsson (gynt o Abertawe, wrth gwrs!).

19.39: Bydd rhai o’r gwrthwynebwyr yn gyfarwydd i’r dorf yma yng Nghaerdydd wrth gwrs, gan gynnwys capten Gwlad yr Ia Aron Gunnarsson, sy’n chwarae i’r Adar Gleision.

19.35: Y dorf yn dal i edrych yn denau ar hyn o bryd, stand Canton a’r Brif Stand yn dechrau llenwi ond fawr neb yn y Grange, a’r Ninian yn hollol wag!

19.15: Y dyfarnwr heno gyda llaw? Eiko Saar o Estonia.

19.14: Felly beth wnewch chi o dîm Cymru? Ydi Coleman wedi gwneud y dewisiadau cywir? Beth fydd y canlyniad heno? Cofiwch ein trydar ni ar @Golwg360!

19.03: Mainc Cymru, gyda llaw – Myhill, Matthews, Gabbidon, Ricketts, Davies, Collison, Richards, J Williams, Easter, OF Williams

19.01: Felly, cap gyntaf dros Gymru i Emyr Huws heno! Neil Taylor yn dechrau fel cefnwr chwith yn lle Ben Davies, a Robson-Kanu ar yr asgell, nid Joniesta.

18.58: Tîm Gwlad yr Ia – Halldorsson, Sigurdsson, Gudmunsson, Arnason, Gunnarsson, Bjarnason, Hallfredsson, Skularson, Sigurdsson, Sigthorsson, Finnbogason

18.56: Tîm Cymru heno – Hennessey, Gunter, Taylor, Collins, A Williams, Allen, Huws, Robson-Kanu, King, Bale, Vokes

18.50: Gwlad yr Ia ydi’r gwrthwynebwyr heno wrth gwrs, ac fe ddaethon nhw’n agos iawn at gyrraedd Cwpan y Byd eleni ar ôl colli i Croatia yn y gemau ail gyfle – felly fydd hi ddim mor hawdd â hynny i Gymru.

18.45: Helo a chroeso i Flog Byw golwg360 ar y gêm gyfeillgar heno rhwng Cymru a Gwlad yr Ia! Iolo Cheung sydd yma efo chi yn dod a’r diweddaraf o Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i Gymru ddechrau eu paratoadau ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2016.