Gan ei bod hi’n wythnos ryngwladol unwaith eto mae criw’r pod pêl-droed nôl i drafod rhai o bynciau llosg yr wythnos.

Owain Schiavone, Iolo Cheung ac Aled Morgan Hughes yw’r tri sy’n trafod heddiw, gyda grŵp Ewro 2016 Cymru a’r tîm heno yn hawlio’r sylw.

Ymysg y chwaraewyr sy’n cael sylw yw’r golwr Owain Fôn Williams, y dewis yng nghanol cae i Gymru, cap cyntaf i Emyr Huws, a chryfderau Sam Vokes.

Bydd golwg360 yn blogio’n fyw o’r gêm heno, ac fe allwch chi hefyd ei gwylio’n fyw ar Sky Sports 4 o 7.30yh ymlaen gyda sylwebaeth Gymraeg ar y botwm coch.

Rhagor o gynnwys ar gêm Cymru vs Gwlad yr Ia:

Cyfweliad gydag Owain Fôn Williams

Dechrau ffres i Joniesta

Coleman – “esiampl Gwlad yr Ia”

Andy King – paratoi am Ewro 2016

Vokes eisiau’r crys rhif naw

Gallwch hefyd ddarllen cyfweliad gydag enw mwyaf newydd y garfan, Emyr Huws, yn Golwg yr wythnos hon.