Golwyr Cymru'n ymarfer ddoe
Ar drothwy gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Gwlad yr Ia heno mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio â rhai o chwaraewyr Cymru am y gêm a’r ymgyrch nesaf i ddod.

Ac un sydd wedi cael sgwrs fach sydyn efo ni ydi Owain Fôn Williams, golwr Tranmere sydd wedi bod yn rhan o garfan Cymru ers sbel.

Mae Owain eto i ennill ei gap cyntaf i Gymru, gyda’r hogyn o Benygroes yn wynebu cystadleuaeth gryf am y safle oddi wrth Wayne Hennessey a Boaz Myhill.

Iolo Cheung fu’n sgwrsio ag ef am y teimlad o gwmpas y garfan ynglŷn a’u grŵp Ewro 2016, gobeithion Owain am y cap cyntaf, a’i dymor gyda Tranmere.