Jonathan Williams
Ar ôl dechrau disglair tu hwnt i yrfa ryngwladol Jonathan Williams y llynedd, dyw’r flwyddyn ddiwethaf ddim wedi bod yn un cystal i’r dewin bach o Crystal Palace.
Ers dod i’r maes yn lle Gareth Bale ar gyfer ei gap cyntaf yn erbyn yr Alban, a helpu i drawsnewid y gêm wrth i Gymru ennill 2-1, mae ‘Joniesta’ wedi cael ei weld gan lawer o gefnogwyr Cymru fel un o sêr y dyfodol.
Ond mae anafiadau’r tymor yma – gan gynnwys un yn yr hydref wrth chwarae dros Gymru a gadwodd Williams allan am rai misoedd – yn golygu nad yw’r misoedd diwethaf wedi bod cweit mor ffrwythlon iddo.
Cyfle gyda Chymru
Er i Crystal Palace ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor hwn, dyw Williams heb ddechrau’r un gêm iddyn nhw yn y gynghrair, ac mae bellach wedi mynd ar fenthyg i Ipswich yn y Bencampwriaeth.
Ond mae’n gobeithio y bydd gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Gwlad yr Ia heno’n gyfle iddo aildanio’i obeithion rhyngwladol ac ychwanegu i’w bedwar cap.
“Dwi jyst wrth fy modd o fod gyda charfan Cymru, mae sbel wedi bod ond dwi jyst yn hapus i fod gyda’r bechgyn eto,” meddai Jonny Williams.
“Rwy’n ddiolchgar i’r rheolwr am roi’r cyfleoedd i mi [pan oedd yng ngharfan Cymru llynedd] a gobeithio gallai ddod nôl ac aros yna. Ond fe fydd hi’n waith anodd.
“Dwi eisiau chwarae cymaint o gemau mewn crys Cymru a phosib, dechrau neu oddi ar y fainc, a gwneud gwahaniaeth i’r tîm.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr am y gêm nos Fercher. Dwi’n gwybod mai gêm gyfeillgar yw hi ond unwaith ‘dych chi allan ar y cae ‘dych chi ddim yn ei drin fel gêm gyfeillgar, ‘dych chi jyst eisiau ennill.”
“Cyffro” Ewro 2016
Yr wythnos hon oedd cyfle cyntaf chwaraewyr Cymru i ddod at ei gilydd i drafod eu gwrthwynebwyr ar gyfer y rowndiau rhagbrofol nesaf, i geisio cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.
Bosnia-Herzegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyrpus ac Andorra fydd gwrthwynebwyr Cymru, ac mae Williams yn cyfaddef ei fod wedi cyffroi pan welodd yr enwau am y tro cyntaf.
“Roeddwn i wedi cyffroi i ddechrau, jyst yn edrych ar y timau,” meddai Williams. “Mae gennym ni gyfle gwych, fe fyddwn i’n dweud siŵr o fod mai ni yw ail dîm gorau’r grŵp.
“Bydd Gwlad Belg siŵr o fod yn gwella a gwella wrth iddyn nhw chwarae gyda’i gilydd, ond dwi’n siŵr y gallwn ni gael canlyniad yn eu herbyn. Fe gawson ni ganlyniad i ffwrdd o gartref yn eu herbyn tro diwethaf felly gall unrhyw beth ddigwydd.
“Canlyniadau fel yn erbyn Israel ac Andorra i ffwrdd o gartref fydd y rhai pwysig i ni yn nhermau pwyntiau. Ond ie, dwi wedi cyffroi i fod yn rhan o dîm Cymru fydd gobeithio’n cyrraedd Ffrainc.”
Y pals yn Palas
Fe allech chi ddeall pam y byddai Jonny Williams yn teimlo’n gyfarwydd o gwmpas carfan ryngwladol Cymru hefyd – mae nifer o’i gydwladwyr hefyd yn chwarae gydag ef yn Crystal Palace!
Ond ar ôl tymor rhwystredig iddo gyda’i glwb, mae Williams yn gobeithio y bydd cyfnod yn Ipswich yn ail-danio’i dymor ac yn cynnig platfform iddo allu paratoi ar gyfer tymor nesaf.
“Dim ond dau neu dri [Cymro] arall ac fe allwn ni roi tîm cyfan ohonom ni allan [yn Palace]!” meddai Williams. “Mae’n grêt cael bechgyn Cymru o gwmpas, er bod rhai o’r bechgyn yn rhoi sdic i ni am fod y pedwar ohonom ni’n eistedd gyda’n gilydd!
“Mae wedi bod yn anodd i mi dderbyn [peidio chwarae’n rheolaidd] achos roeddwn i’n edrych ymlaen at chwarae dros Palace yn y Prem.
“Dwi wedi chwarae ond heb ddechrau gêm, dyna oedd fy mhrif nod ond gobeithio gallai dal wneud hynny.
“Dwi’n credu mai’r penderfyniad cywir oedd mynd i Ipswich [ar fenthyg am fis] jyst i gael gemau a ffitrwydd yn ôl.
“Ond dwi’n edrych ymlaen at gael gemau nawr a gorffen y tymor ar nodyn uchel, mynd mewn i’r haf yn llawn hyder ac wedyn edrych ymlaen at y tymor newydd. Jyst aros yn ffit yw’r prif beth.”