Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i’r garfan fydd yn wynebu Lloegr yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad bnawn Sul.
Bydd Jonathan Davies yn dychwelyd ar ôl anaf ac Alun Wyn Jones yn ôl ar y cae ar ôl haint ar ei droed, yn y gobaith o roi crasfa debyg i’r llynedd i dîm Lloegr, pan enillodd Cymru o 33-3.
Mae Rhys Webb wedi cael ei ddewis o flaen Mike Phillips yn safle’r mewnwr unwaith eto a George North yn dychwelyd i safle’r asgellwr, gan gymryd lle Liam Williams sy’n symud i’r fainc.
Rhys Priestland sydd wedi cael ei ddewis fel maswr unwaith eto, gyda Dan Biggar ar y fainc y tro hwn.
Mae disgwyl i’r Saeson gadw llygad graff ar dri o hoelion wyth tîm Cymru – Richard Hibbard, Jamie Roberts a Taulupe Faletau.
Fe fydd Cymru’n mentro i Stadiwm Twickenham a’r gêm yn cychwyn am 3 o’r gloch ddydd Sul.
Dyma’r tîm yn llawn:
Tîm Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Rhys Priestland (Scarlets), Rhys Webb (Gleision); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton – capten (Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau)
Eilyddion: Rhodri Jones (Scarlets), Paul James (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), Liam Williams (Scarlets)