Casnewydd 0–0 Fleetwood

Collodd Casnewydd y cyfle i gau’r bwlch ar y saith uchaf wrth i Fleetwood ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Roedd tîm Justin Edinburgh yn chwarae un o’u gemau wrth gefn a byddai buddugoliaeth wedi eu rhoi yn ôl o fewn pedwar pwynt i’r safleoedd ail gyfle.

Ond er i’r Cymry gael y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig wrth iddi orffen yn gyfartal ddi sgôr.

Mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i’w codi dros Efrog i’r degfed safle yn y tabl ac mae gan yr Alltudion gêm bwysig arall oddi cartref yn erbyn Mansfield brynhawn Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Parish, Jackson, Willmott, Sandell, Naylor, Yakubu (Hughes 77′), Porter (Flynn 65′), Burge, Zebroski, Howe, Minshull

Cerdyn Melyn: Sandell 42’

.

Fleetwood

Tîm: Maxwell, McLaughlin, Taylor, Roberts, Pond, Goodall, Murdoc, Schumacher, Sarcevic, Mat, Evans

Cerdyn Melyn: Schumacher 71’

.

Torf: 3,728