Mae Chris Coleman wedi awgrymu y dylai Cymru fod yn ceisio efelychu esiampl Gwlad yr Ia wrth geisio cyrraedd twrnament rhyngwladol, wrth i’r ddau dîm baratoi i wynebu’i gilydd nos fory.
Llwyddodd Gwlad yr Ia i gyrraedd gemau ail gyfle rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ddiweddar, gan golli i Croatia, tra gorffennodd Cymru’n bumed yn eu grŵp nhw.
Ac mae Coleman wedi mynnu y bydd Cymru’n wynebu her anodd yn y gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
“Fe orffennon nhw’n ail yn eu grŵp, ac fe fyddwn nhw wedi’u trefnu’n dda,” meddai Coleman wrth siarad yn y gynhadledd i’r wasg heddiw. “Fe gawson nhw ymgyrch dda a cholli yn y gemau ail gyfle i Croatia.
“Os allwch chi roi’ch tîm cryfaf allan yn fwy aml, a dwi’n credu bod Gwlad yr Ia wedi llwyddo i wneud hynny, mae hynny’n creu hyder ac fe gewch chi ganlyniadau da ac fe allwch chi adeiladu ar hynny.
Ledley allan, Ash yn holliach
Cadarnhaodd Coleman na fydd Joe Ledley’n cymryd rhan yn y gêm oherwydd anaf i’w glun, ond bod Ashley Williams yn holliach a bod disgwyl iddo fod yn gapten nos fory.
Dywedodd Coleman ei fod yn gobeithio rhoi gêm lawn i Gareth Bale hefyd, gan awgrymu y byddai wedi cael ei ddewis fel capten pe na bai Williams wedi gwella.
“Mae Joe wedi dychwelyd i Palace, doedden ni ddim am gymryd risg gydag e,” meddai Coleman.
“Mae [Bale] wedi dod drwy’r [ddarbi Madrid], mae e yma ac yn ysu i fynd.
“Os yw’n dechrau fory fe fyddwn ni’n edrych i’w chwarae am 90 munud, rydyn ni’n anelu i ennill y gêm. Mae’n gêm gyfeillgar ond mae’n rhaid i chi fynd mewn iddi efo’r meddylfryd iawn, felly fe ddechreuwn ni gyda’n tîm cryfaf.
“Petawn ni heb Ash, a bod problem gydag Aaron [Ramsey, sydd ddim yn y garfan oherwydd anaf], byddai Gareth Bale yn ddewis amlwg.”
Cadarnhaodd y capten Ashley Williams ei fod yn teimlo’n llawer gwell ers y penwythnos, pan fu’n sâl ar y cae yn ystod gêm Abertawe.
“Dwi heb fod yn teimlo’n grêt, roedd tipyn o fechgyn Abertawe wedi bod yn sâl,” meddai Ashley Williams. “Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn iawn, dwi wedi bwyta’n iawn, a dwi’n teimlo’n well ar ôl gweld y doctor a chael noson dda o gwsg.”