Roedd hi’n benwythnos llwyddiannus i ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 yn Abertawe, ar ôl i fyfyrwyr y Geltaidd o Brifysgol Aberystwyth ddod i’r brig yng ngala chwaraeon yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol.
Bangor gafodd y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod ei hun ddydd Sadwrn, ond ar y caeau chwaraeon brynhawn Gwener stiwdants y canolbarth oedd yn dangos eu doniau.
Llwyddodd timau’r Geltaidd i ennill y pêl-rwyd a’r rygbi bechgyn, gan ddod yn ail yn y rygbi merched a phêl-droed bechgyn a dod yn drydydd ym mhêl-droed y merched.
Ac yn y flwyddyn ble mae cymdeithas chwaraeon y Coleg Ger y Lli yn dathlu 125 mlwyddiant, mae’r fuddugoliaeth dros golegau eraill Cymru’n siŵr o fod yn un o nod yn eu hanes!
Gallwch ddarllen ein cyflwyniad i Y Geltaidd yr wythnos diwethaf drwy ddilyn y linc.
Canlyniadau:
Pêl-rwyd
1.Aberystwyth
2.Bangor
3.Abertawe
Pêl-droed merched
1.Y Drindod Dewi Sant
2.Caerdydd
3.Aberystwyth
4.Bangor
Pêl-droed bechgyn
1.Bangor
2.Aberystwyth
3.Caerdydd
4.Abertawe
5.Y Drindod
Rygbi merched
1.Y Drindod Dewi Sant
2.Aberystwyth
3.Abertawe
4.Bangor
Rygbi bechgyn
1.Aberystwyth
2.Y Drindod Dewi Sant
3.Bangor
4.Caerdydd
5.Abertawe