Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal cyfarfod yn y Galeri yng Nghaernarfon y pnawn ‘ma, i rannu eu gweledigaeth i  ddenu pencadlys S4C i’r dref.

Ers cyhoeddi ym mis Hydref eu bod yn ystyried symud eu pencadlys o Gaerdydd, mae S4C yn y broses o bwyso a mesur ceisiadau i adleoli i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Ond, mae hi hefyd yn bosib y bydd y pencadlys yn aros yn ei safle presennol yng Nghaerdydd os bydd hi’n rhy gostus i symud.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweld y cynnig yn “gyfle sylweddol” i economi gogledd-orllewin Cymru ac yn “sbardun allweddol i warchod a hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.”

Clywodd aelodau’r cyfarfod sut y gallai adleoli i Gaernarfon fod o fudd i’r dref a’r ardal gyfagos ac arwain at greu 600 o swyddi yn yr hirdymor.

‘Manteision economaidd a ieithyddol’

Mae Prifysgol Bangor wedi datgan eu cefnogaeth i’r cais i adleoli pencadlys S4C i Gaernarfon.

Yn ôl y Brifysgol mae manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol sylweddol i symudiad o’r fath.

Meddai’r Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor: “Mae manteision niferus i S4C adleoli i Gaernarfon. Yn ogystal â’r hanes a’r traddodiad sylweddol o gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel gan gwmnïau o’r ardal, mae yna eisoes gnewyllyn cryf iawn o gwmnïau cynhyrchu a digidol yn yr ardal.

Dywedodd yr Athro Hunter fod ystyriaethau economaidd hefyd yn bwysig, ac mae’r Brifysgol yn credu y byddai symud i Gaernarfon yn gostwng costau S4C dros amser. Meddai: “Yn bwysicach efallai, byddai’n arwydd clir i bobl Cymru o’r awydd i ddosbarthu manteision a chyfleoedd economaidd ymhellach na choridor yr M4 yn unig.

“Mantais arall sylweddol i S4C yw’r buddsoddiad newydd o £46m yng nghanolfan ‘Pontio’ y Brifysgol. Eisoes mae diddordeb rhyngwladol wedi bod yn y ganolfan a gall y cysylltiadau hynny fod yn fanteisiol iawn i S4C.”

‘Sefydliad cenedlaethol’

Ac yn ôl y newyddiadurwraig Bethan Jones Parry, a oedd yn y cyfarfod, mae’n hen bryd i’r gogledd orllewin gael sefydliad cenedlaethol yn yr ardal.

“Roedd hi’n codi calon rhywun i weld gymaint o gyrff yn gweithio mewn partneriaeth i geisio denu’r pencadlys i Wynedd.

“Roedd dadleuon economaidd yn dod at ei gilydd a phethau’n edrych yn addawol iawn.

“Bysa pencadlys S4C yn cael cartref anrhydeddus yng Nghaerfyrddin hefyd, ond maen hen bryd i ni gael sefydliad cenedlaethol yma yn y gogledd orllewin.

“Mae datganoli yn fwy na throsglwyddo pwerau o Lundain i Gymru. Mae angen sefydliad cenedlaethol ym mhob cwr o’r wlad.”

Pôl piniwn golwg360

Mae hanner y bobl a bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 yn ddiweddar wedi dweud eu bod nhw am weld S4C yn symud ei phencadlys i Gaernarfon.

Y dref ogleddol ddaeth i’r brig yn y pôl, gyda 49.5% o’r bleidlais, o flaen Caerfyrddin a ddenodd 32.5% o’r mil a bleidleisiodd.

‘Yr Egin’ yw’r ymgyrch sydd yn ceisio denu’r sianel i Sir Gâr.