Ysgol Cribyn yn 1957
Fe fydd Ysgol Farddol newydd yn agor ym mhentref Cribyn yng Ngheredigion, dan arweiniad y prifeirdd Tudur Dylan a Mererid Hopwood.

Bedair blynedd wedi i ysgol y pentref gau, mae’r datblygiad newydd yn gobeithio sicrhau parhad addysg ar gyfer y gymdogaeth gyfan yn Nyffryn Aeron a Cheredigion.

“Mae sefydlu Ysgol Farddol yn gam pwysig arall yn y gwaith o gadw addysg yn weithgaredd i bawb, nid i athrawon a’u disgyblion o fewn amser ysgol yn unig”, meddai ysgrifennydd y mudiad, Delyth Davies.

“Ac fe fydd y ddau brifardd yn gosod seiliau cryf i’r ysgol –  nid yn unig o ran eu gwybodaeth a’u medrusrwydd o grefft ond hefyd eu profiad wrth sefydlu Ysgol Farddol Caerfyrddin”.

Croeso i bawb

Ychwanegodd Euros Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Clotas, fod yr ardal yn gartref un o athrawon beirdd enwocaf canrif Fictoria – Daniel Ddu o Geredigion.

“Roedd gan athro-fardd arall – Dafis Castell Hywel gysylltiadau â’r ardal. Ac yn Nyffryn Aeron – rhwng Cribyn a’r Felin-fach yr oedd gwreiddiau’r prifardd caneuon ysgafn, Idwal Jones.’

“Gan gofio am Idwal, does dim angen i unrhyw un deimlo’n swil” meddai Euros, “Y llinell gyntaf o gynghanedd a sgwennwyd ganddo oedd ‘Cwca reis a Quaker Oats’.”

Fe fydd mis o wersi yn cael eu cynnal bob nos Iau, yn cychwyn ar 6 Mawrth am 7:30 o’r gloch, ac yna fe fydd parhad yr ysgol yn dibynnu ar lwyddiant y pedair gwers gyntaf.