Steve McQueen
Mae’r ffilm 12 Years a Slave wedi cipio’r Oscar am y ffilm orau yn Los Angeles neithiwr.
Roedd y ffilm Gravity hefyd wedi cipio sawl gwobr gan gynnwys y cyfarwyddwr gorau i Alfonso Cuaron.
Cate Blanchett a gipiodd y wobr am yr actores orau am ei rhan yn ffilm Woody Allen, Blue Jasmine, a Matthew McConaughey a enillodd yr actor gorau am ei rol yn Dallas Buyers Club.
Roedd na lwyddiant hefyd i Lupita Nyong’o a enillodd y wobr am yr actores gynorthwyol orau am ei rhan yn y ffilm 12 Years a Slave, a Jared Leto a enillodd y wobr am Dallas Buyers Club.
Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm 12 Years a Slave, Steve McQueen ei fod yn cyflwyno’r wobr “i bawb sydd wedi dioddef caethwasiaeth a’r 21 miliwn o bobl sy’n dal i ddioddef caethwasiaeth heddiw.”
Mae’r ffilm yn seiliedig ar hanes Solomon Northup o Efrog Newydd a gafodd ei gipio a’i werthu’n gaethwas.