Bob Delyn a'r Ebillion (Llun Dyfan - Gŵyl Golwg 2013)
Bydd Gŵyl Tafwyl yn symud y tu allan i furiau Castell Caerdydd eleni gan orlifo ar hyd Heol y Castell gerllaw.
Bydd yr ŵyl yn cael ei hagor yn swyddogol ar 12 Gorffennaf gan y Prif Weinidog , Carwyn Jones.
Wrth gyhoeddi’r manylion yng Nghanolfan y Mileniwm heddiw, dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, John Griffiths bod gan yr Wyl “rôl werthfawr yn hyrwyddo’r iaith ac yn dangos i’r Cymru di-Gymraeg ei bod yn iaith fyw ac yn un y gall pobl fod yn falch ohoni.”
Bydd Bryn Fôn, Bob Delyn, Yr Ods ac Endaf Gremlin yn perffformio ar y prif lwyfan ond fe fydd yna lwyfan newydd hefyd fydd yn cynnwys cerddoriaeth amrywiol o jazz i fandiau pres a drymiau dur.
Bydd amrywiaeth o chwaraeon a phebyll ar gyfer llenyddiaeth a’r celfyddydau er mwyn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Hanes
Menter Caerdydd sefydlodd yr ŵyl yn 2006 a phryd hynny roedd yn cael ei chynnal yng ngardd tafarn y Mochyn Du.
Wrth i’r ŵyl dyfu, fe symudodd i’r castell yn 2012 ond llynedd penderfynodd Cyngor Caerdydd roi’r gorau i’r nawdd er mwyn arbed arian.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru gefnogi’r ŵyl beth bynnag ac mae’r trefnwyr bellach wedi llwyddo i gael arian oddi wrth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru i ychwanegu at yr £20,000 gan y Llywodraeth.