Mae’r Archdderwydd Christine James wedi agor yr Eisteddfod Rhyng-Golegol sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe dros y Sul.


Yr Archdderwydd wrth ei gwaith
Mae Dr James yn Uwch-ddarlithydd yn y Brifysgol a dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, ei bod yn addas iawn ei bod hi, fel Archdderwydd, wedi gallu rhoi cychwyn ar y cystadlu.

Fe wnaeth y dathliadau gychwyn brynhawn ddoe gyda gala chwaraeon a’r cystadleuaethau llwyfan sy’n cael eu cynnal heddiw.

Meddai Lewys Aron, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser cael y fraint o gynnal yr Eisteddfod Rhyng-golegol yma, a gyda dathliadau Gŵyl Dewi ar y dydd Sadwrn, mae hyn yn rhoi cyfle euraidd i’r Gymdeithas Gymraeg, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar draws y campws.”

Bydd yr Eisteddfod yn gorffen efo noson gwis a gig gyda pherfformiadau gan Gowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Y Bandito, Yr Eira a Llumar.