Dylan Thomas
Mae rhai o sêr ffilm a theledu mwyaf Cymru wedi dod at ei gilydd ar gyfer ffilm fer fydd yn cael ei darlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu canmlwyddiant geni y bardd Dylan Thomas eleni.

Bydd Rhys Ifans, Ioan Gruffudd, Michael Sheen, Huw Edwards, Charlotte Church ac Alex Jones ymysg yr enwogion sydd wedi recordio fersiwn arbennig o un o gerddi amlycaf Dylan Thomas, Do Not Go Gentle Into That Good Night ar gyfer y ffilm, fydd yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am y tro cyntaf heno fel rhan o dymor Dylan Thomas ar y BBC.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, ei fod yn gobeithio y bydd y rhaglenni’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i werthfawrogi talentau’r bardd o Dalacharn.

“Wrth i ni ddathlu canmlwyddiant ei eni, mae Dylan yn cael ei weld heddiw nid yn unig fel un o ffigurau diwylliannol pwysicaf Cymru, ond fel bardd o statws a bri rhyngwladol,” meddai Rhodri Talfan Davies.

“Mae’r BBC wedi dod â rhai o gynhyrchwyr rhaglenni gorau Cymru a Phrydain at ei gilydd i gyflwyno amrywiaeth o raglenni fydd yn gosod y bardd a straeon ei fywyd a’i waith ger bron cenhedlaeth newydd.”

Bydd y ffilm fer yn cael ei dangos ar BBC One Wales heno cyn rhaglen The Voice UK, ac fe fydd hefyd ar gael ar wefan www.bbc.co.uk/dylanthomas .