Owain Gwynedd
Ar drothwy gornest gyntaf y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal, mae blogiwr golwg360 Owain Gwynedd yn credu mai hon yw’r gêm fydd yn sbarduno Cymru i’w trydedd bencampwriaeth o’r bron …

O’r diwedd, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cyrraedd. Cyfle i anghofio’r holl anghydfod diweddar a chanolbwyntio ar rygbi… ia rygbi, a ddim rhyw wleidyddiaeth ddiflas.

Fel rheol mae pawb eisiau gwybod pwy sydd mynd i ennill y gystadleuaeth cyn i’r holl beth gychwyn. Er mwyn canolbwyntio ar y gêm gyntaf, sef Yr Eidal, a thrin pob gêm â’r parch maen nhw yn ei haeddu dwi am ateb y cwestiwn yna gyntaf … Cymru fydd y pencampwyr am y drydedd tro yn olynol.

Er mwyn cyflawni’r gamp yna mae rhaid curo’r Eidalwyr dydd Sadwrn a hynny o gymaint o bwyntiau a phosib.

Pwy a ŵyr be fysa’r effaith seicolegol ar Gymru os fysa Lloegr wedi curo’r Eidal o 20 pwynt a mwy yn gynharach yn y bencampwriaeth llynedd, ac yna Cymru yn gorfod curo Lloegr o dros 20 pwynt yn y gêm olaf yna yn Stadiwm y Mileniwm. Ia, y gêm fythgofiadwy honno. Fysa pethau wedi gallu bod llawer caletach o flaen llaw.

Hanes ar ein hochr

Mae hanes ar ein hochr ni yng Nghaerdydd gan nad yw’r cochion wedi colli’r unwaith i’r Azzurri mewn gêm gartref. Yr unig farc du yw’r gêm gyfartal, 18-18, yn 2006.

Felly, sut mae sicrhau bod nad yw’r Eidalwyr yn creu hanes ac yn cynhyrfu’r dyfroedd? Mae’r ateb yn hawdd, gwneud yn union be wnaethpwyd yn Rhufain llynedd – gosod stamp corfforol ar blaenwyr mawr yr Eidal.

Mae’r Eidalwyr dros y blynyddoedd diweddar wedi ymfalchïo yn y ffaith bod ganddynt flaenwyr a sgrym gorfforol a phwerus sydd digon da i ennill gemau o drwch blewyn. Blaenwyr sydd yn ennill ciciau cosb a maswr sydd yn eu trosi.

Eu gwendid ydi’r diffyg sgil a thalent ymysg y cefnwyr i sgorio ceisiau.

Brwydr y blaenwyr

Dwi wedi sôn droeon o’r blaen mai’r blaenwyr sydd yn ennill y gêm a’r cefnwyr sydd yn penderfynu o’r nifer o bwyntiau.

Mae gan Gymru pac sydd ymysg y fwyaf corfforol yn y byd erbyn hyn ac wedi profi llynedd bod nhw yn gallu chwalu Castrogiovanni a gweddill y blaenwyr y gleision.

Fydd yr oruchafiaeth ymysg y pump blaen yn rhoi arwr yr Eidal, eu hwythwr Sergio Parisse, ar y droed ôl a ddim mor effeithiol ac y gall fod y tu ôl i bac sydd ar y droed flaen.

Gan fydd y cochion ar y droed flaen fydd y gwahaniaeth aruthrol yn safon y cefnwyr yn talu ffrwyth yn ei chanfed.

Pa obaith sydd gan Mirco Bergamasco a Tomasso Allan, y maswr dibrofiad, yn erbyn y rhedwyr pwerus o North, Roberts, Cuthbert a Williams? Fawr ddim.

Y pŵer yn ymysg y cefnwyr fydd yn sicrhau digon o geisiau i ennill y gêm y ddidrafferth.

Carfan gref … ond gall fod yn gryfach

Dwi wedi cyffroi ar gyfer dydd Sadwrn ac i weld tîm cryf yn camu i’r maes. Be sydd yn fy nghyffroi hyd yn oed yn fwy yw gwybod bod Gethin Jenkins ac un o ganolwyr gora’r byd Jonathan Davies am fod ar gael am y gêm yn Iwerddon.

Roedd Warren Gatland ei hun yn cyfaddef mai hwn yw carfan gryfaf Cymru oherwydd y lleiaf o anafiadau mae o’n cofio cael ers peth amser.

Bydd y gêm gyntaf yn un perffaith i adeiladu hyder a momentwm. Unwaith mae Cymru efo hynny, yn amlach na pheidio, mae Cymru wedi mynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth.

Er mod i’n hyderus fod Cymru’n mynd i ennill ddydd Sadwrn, ac ennill yn gyfforddus, rhaid cadw mewn cof bod yr Eidal yn dîm sy’n parhau i wella a datblygu.

Does dim ond angen edrych ar ganlyniadau a thabl Chwe Gwlad y llynedd i atgoffa rhywun fod yr Eidal yn fygythiad. Curo Ffrainc ac Iwerddon yn Rhufain ac yna gorffen yn eu safle uchaf erioed yn y tabl, pedwerydd.

Canlyniad: Cymru 38-12 Yr Eidal