Alun Wyn Jones fydd yn arwain Cymru yn y gêm agoraidol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm yfory.
Mae’r clo sydd wedi chwarae 74 gwaith i Gymru wedi dweud ei fod yn aeddfetach nawr nag oedd yn arwain Cymru am y tro cyntaf nôl yn 2009 yn erbyn Yr Eidal.
‘‘Wrth edrych nôl, doeddwn i ddim yn barod. Efallai roeddwn i braidd yn uchelgeisiol am yr hyn y gallwn ei reoli. Rwyf wedi magu hyder o fod yn Gapten gyda’r Gweilch felly rwy’n edrych ymlaen at yr her o arwain fy ngwlad yfory,’’ meddai Jones.
Yn ôl nifer Cmru yw’r ffefrynnau i gipio’r Pencamwriaeth am y drydedd blynedd yn olynol eleni.
‘‘Rwy’n siwr bydd y tîmau eraill yn ein targedu ond mae’n bwysig i ni canolbwyntio ar un gêm ar y tro,’’ ychwanegodd Jones.