Rhys Hartley
Yn anffodus, dy’n ni wedi cyrraedd rowndiau diflas Cwpan yr FA. Eleni ry’n ni’n lwcus i gael gêm rhwng dau dîm o’r Bencampwriaeth i sicrhau y bydd o leiaf un o du fas i’r Prem yn cyrraedd yr wyth olaf, ond dyw hi ddim wedi bod yn flwyddyn i’w chofio i’r hen dlws.

Mae hi yn ymddangos fel petai’r timau mawr bellach yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri, fodd bynnag, sy’n hwb i’r rheiny ohonom oedd yn poeni am ei werth.

Mae hi’n braf gweld pump o chwech ucha’r Uwch Gynghrair dal yn y gystadleuaeth ond mae’n siom na fu yna sioc fawr ac embaras go-iawn i un o’r cewri … nes nawr.

Atgofion y gorffennol

Mae’r cwpan wedi cynnig rhai o uchafbwyntiau fy mywyd pêl-droed, heb anghofio sawl isafbwynt hefyd. Dw i’n cofio rhedeg ar y cae ar ôl i Gaerdydd, ar drydedd reng y pyramid ar y pryd, guro Leeds oedd ar frig yr Uwch Gynghrair.

Wna i fyth anghofio’r teimlad o sefyll ymysg 6,000 o gefnogwyr Caerdydd ym Middlesbrough wedi i’r Adar Gleision gyrraedd Wembley, a ninnau heb stopio canu am dros ddwy awr.

Ar ochr anghywir ‘cupset’ fu Caerdydd y llynedd, gan golli i Macclesfield, tîm nad oedd hyd yn oed yn rhan o’r gynghrair. Yn amlwg, doedd hi ddim yn deimlad braf i gefnogwyr tîm ein prifddinas – ond bydd cefnogwyr Macclesfield yn sôn wrth eu hwyrion am y gêm honno am flynyddoedd i ddod, fel fi a Leeds!

Mae’r cwpan yn rhoi’r cyfle i gefnogwyr timoedd llai freuddwydio, ac i ni gyd sylweddoli potensial pêl-droed. Roedd cael ymweld â Highbury, yr Emirates a hyd yn oed Crewe yn yr hen ddyddiau yn deimlad anhygoel i ni gefnogwyr Caerdydd. Ac fel ’na bu hi i mi wrth ddilyn Henffordd eleni.

Y ffordd i Henffordd

Eleni, es i wylio, a hynny am y tro cyntaf, rownd ragbrofol Cwpan yr FA. Ie, Henffordd yn teithio i Hornchurch. Daeth y pentref i gyd mas i weld mawrogion Henffordd, sy’n cael eu cofio’n bennaf am guro Newcastle ym 1972.

A bu bron i’r tîm cartref ennill taith i’r metropolis pêl-droed a elwir yn Edgar Street dim ond i gôl funud olaf ddanfon cewri’r Conference drwodd i’r rownd nesaf.

Wrth gwrs, cafwyd mwy nag un cytgan o’r gân enwog ‘Que Sera, Sera’ gan ffyddloniaid y Teirw, â’r freuddwyd o gyrraedd Wembley dal yn fyw, am y tro beth bynnag.

Roedd y siarad ar y ffordd allan o’r maes yn llawn cyffro, gyda phawb yn gobeithio am dîm mawr yn y rownd gyntaf – Bristol City, Sheffield United, Wolves? Mae’n anodd iawn gweld tîm tu fas i’r ddwy gynghrair uchaf yn dod yn agos at ennill y cwpan ond mae’n rhaid dal i gredu, on’d oes?

Dyna pam mae’n gymaint o siom i glywed cefnogwyr a rheolwyr y timau mawr yn dibrisio’r cwpan. Bydd pob chwaraewr a chefnogwr yn cofio cyrraedd Wembley yn fwy na thri phwynt yn erbyn Stoke neu rywun.

Bai’r awdurdodau

Rhaid pwyntio bys at yr FA a’r Uwch Gynghrair, hefyd, wrth gwrs. Symudwyd y ffeinal fel ei fod yn cael ei gynnal yn ystod y tymor a newidiwyd amser y gic gyntaf.

Tri o’r gloch ddyle gemau pêl-droed fod ar ddydd Sadwrn, yn enwedig y ffeinal! Dylai llygaid y wlad i gyd fod ar y gêm yn Wembley fel roedd hi’n arfer bod. Mae’n ymddangos taw dim ond gêm arall yw gemau’r cwpan i’r awdurdodau pêl-droed.

Ydy, mae’n deg nodi bod niferoedd y torfeydd o gwmpas y wlad ar gyfer y cwpan wedi bod yn isel iawn. Ond beth y’ch chi’n disgwyl? Mae cefnogwyr yn gwario symiau aruthrol ar gyfer gemau fel mae hi, heb sôn am un arall.

I’r clybiau mawr, dyw gem yn erbyn tîm llai ddim yn gyffrous iawn chwaith. Pam troi mas i weld buddugoliaeth rhwydd gan yr ail dîm, neu ddioddef bod ar ochr anghywir sioc?

Rhai ffans ffyddlon

Rhaid felly canmol cefnogwyr Everton am eu ffyddlondeb yn y ddwy rownd ddiwethaf, yn groes i’r disgwyl gan glybiau mawr.

Roeddwn yn ddigon ffodus i fynd i Goodison gyda 32,000 o bobl eraill ar gyfer y gêm drydedd rownd yn erbyn QPR o’r Bencampwriaeth.

Roedd y tocynnau yn rhatach na’r arfer ond bu’n dal rhaid i mi dalu £25 ar gyfer tocyn myfyriwr. Mae’n amlwg bod y posibilrwydd o lwyddiant yn y gystadleuaeth yn dal yn atyniadol i gefnogwyr y Toffees.

Er gwaetha’ ymdrechion y darlledwyr, fe deithiodd saith mil o gefnogwyr Coventry i Arsenal nos Wener dwetha. Roedd tua’r un nifer o ffans Watford yn Man City a theithiodd pedair mil o gefnogwyr Kidderminster i Sunderland ddydd Sadwrn.

Mae ‘rhamant y cwpan’ yn dal i gipio dychymyg y cefnogwyr yma – a bu bron i Watford a Kidderminster gael eu gwobrwyo gan ddod yn agos iawn at guro un o’r mawrion.

Rhag cywilydd yr FA, yr Uwch Gynghrair a rhai o’r timoedd mawr am fychanu gwerth y gystadleuaeth. Mae angen cofio’r cefnogwyr ac adfer bri’r gwpan. Ry’n ni’n dal i’w pharchu a’i chymryd o ddifri.

Pob lwc i Gaerdydd ac Abertawe yn y rownd nesaf – dwi’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn ysu am ddod a’r cwpan enwog yn ôl dros y ffin am y tro cyntaf ers 1927.

Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.