Golwg360 sydd yn cadw llygad ar holl glecs a throsglwyddiadau diwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig.

17.10: Un difyr – adroddiadau’n awgrymu fod Caerdydd wedi trio ail-arwyddo Ross McCormack o Leeds, ond fod clwb Elland Road wedi gwrthod cynnig o £4m.

17.00: Abertawe’n ymddangos fel na fyddwn nhw’n arwyddo Nacer Chadli o Spurs – ’di’r asgellwr ddim yn swnio’n rhy awyddus i fynd i’r Liberty …

16.30: Mae Michael Laudrup wedi dweud na fydd Neil Taylor (gweler 15.20) yn gadael Abertawe os na fydd y clwb yn llwyddo i arwyddo rhywun yn ei le, yn ôl BBC Sport.

16.15: Abertawe nawr wedi cyhoeddi’n swyddogol bod Jay Fulton wedi arwyddo.

15.35: Mae’n edrych fel mai’r un cyntaf drwy’r drws yn Abertawe heddiw fydd Jay Fulton o Falkirk, gyda gwefan swyddogol y clwb yn cadarnhau eu bod nhw’n agos at gytundeb.

Mae’r Elyrch hefyd ar ôl Nacer Chadli o Spurs, yn ôl y South Wales Evening Post.

15.30: Mae Nottingham Forest wedi cadarnhau y bydd y Cymro David Vaughan yn aros yno ar fenthyg o Sunderland nes diwedd y tymor.

15.20: Mae adroddiadau hefyd fod Fulham wedi gwneud ail gynnig i Abertawe am Neil Taylor – ac fe fyddai Wrecsam yn debygol o elwa os fydd y cefnwr yn cael ei werthu.

Ond mae ’na un rhwystr annisgwyl wedi codi – mae’n ymddangos bod gwraig Taylor ar fin rhoi genedigaeth heddiw!

15.15: Lot wedi’i gadarnhau’r prynhawn ’ma – Wilfried Zaha a Fabio i Gaerdydd o Man U, Craig Conway‘n gadael Caerdydd am Blackburn, a Wayne Hennessey wedi symud i Crystal Palace o Wolves.

12.44: A chadarnhad – Rory Donelly wedi symud i Coventry ar fenthyg nes diwedd y tymor.

12.42: Mae disgwyl i Gaerdydd hefyd werthu Andreas Cornelius yn ôl i Copenhagen cyn diwedd y dydd, er nad yw’r ddêl wedi’i chadarnhau “100%” yn ôl Solskjaer.

12.25: Mae’n ymddangos bod Caerdydd bellach wedi cwblhau trosglwyddiad Zaha ar fenthyg o Man United. Un arall sydd wedi symud yw’r Cymro James Wilson, gyda’r amddiffynwr yn symud i Oldham am ddim o Bristol City.

Clecs am 11.00yb

Mae Celtic wedi derbyn cynnig gan Crystal Palace am Joe Ledley, gyda chytundeb y chwaraewr canol cae yn dirwyn i ben yn yr haf (The Scotsman)

Mae Craig Davies yn edrych fel petai ar y ffordd o Bolton i Preston ar fenthyg (Botlon News)

Mae Wilfried Zaha a Fabio da Silva wedi cwblhau’u trosglwyddiadau i Gaerdydd, Zaha ar fenthyg a Fabio yn barhaol – ond dyw’r clwb heb gadarnhau’r newyddion yn swyddogol eto (BBC Sport)

Mae Leicester wedi gwrthod cynnig o £2.5m gan Abertawe am Jeffrey Schlupp (WalesOnline)

Bydd amddiffynwr Lazio Michael Ciani yn dewis rhwng arwyddo i Gaerdydd neu Norwich heddiw (sportwitness.com)

Mae ymosodwr Juventus Fabio Quagliarella wedi penderfynu yn erbyn symud i Gaerdydd (hereisthecity.com)

Mae Coventry mewn trafodaethau ag Abertawe ynglyn a benthyg yr ymosodwr Rory Donnelly nes diwedd y tymor (ccfc.co.uk)

Mae ymosodwr Caerdydd Etien Velikonja wedi symud i Rio Ave ym Mhortiwgal ar fenthyg nes diwedd y tymor (cardiffcity-mad.co.uk)

Y ffenestr hyd yn hyn

Raheem Hanley (Blackburn i Abertawe)

Simon Moore (Caerdydd i Bristol City) ar fenthyg

Lee Lucas (Abertawe i Chesterfield) ar fenthyg

Scott James (Goytre i Gaerfyrddin)

James Bloom (Port Talbot i Drenewydd)

Emyr Huws (Man City i Birmingham) ar fenthyg

Adam King (Hearts i Abertawe) ffi heb ei ddatgelu

Jernade Meade (Abertawe i Luton) ar fenthyg

Kenwyne Jones (Stoke i Gaerdydd) cyfnewid

Peter Odemwingie (Caerdydd i Stoke) cyfnewid

Elliot Durrell (Hednesford i Wrecsam)

Jo Inge Berget (Molde i Gaerdydd) ffi heb ei ddatgelu

Jake Cassidy (Wolves i Tranmere) ar fenthyg

Jason Oswell (Rhyl i Airbus UK)

Corey Jenkins (Caerfyrddin i Monmouth Town) ar fenthyg

John Brayford (Caerdydd i Sheffield United) ar fenthyg

Ryan Jones (Bala i Porthmadog) ar fenthyg

Tyrrell Webbe (Caerau (Ely) i Gaerfyrddin)

Mark Crutch (Afan Lido i Ton Pentre)

Ashley Williams (Caer i Airbus UK)

Jason Bertorelli (Cambrian & Clydach i Port Talbot) ar fenthyg

Jordan Follows (Caerfyrddin i Llanelli) ar fenthyg

Nicky Maynard (Caerdydd i Wigan) ar fenthyg

Adrian Cieslewicz (Wrecsam i Kidderminster) ffi heb ei ddatgelu

Lewis Codling (Bala i Gaernarfon) ar fenthyg

Sean Smith (Wrecsam i Gap Cei Connah) ar fenthyg

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Derby i Notts County) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)