Cwpan Heineken - un o achosion y dadlau
Mae’r dadleuon rhwng rhanbarthau Cymru a’r awdurdodau rygbi’n mynd o ddrwg i waeth gyda’r pedwar rhanbarth yn cyhuddo trefnwyr cwpanau rygbi Ewrop o fod yn hwyr gyda thaliadau ariannol.
Mae cynrychiolwyr y rhanbarthau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw’n gandryll am yr oedi tros daliadau gwerth £800,00, gan honni eu bod wedi gorfod gwneud trefniadau brys i dalu cyflogayu.
Mae’n ymddangos hefyd fod Undeb Rygbi Cymru’n paratoi i roi cytundebau uniongyrchol i ragor o’r sâr rhyngwladol – er nad oes cytundeb gyda’r rhanbarthau ynghylch hynny.
Y ddadl
Mae’r ddadl tros daliadau Ewrop yn ddryslyd, gydag anghytundeb ynglŷn â’r ffeithiau.
Yn ôl y rhanbarthau – y Dreigiau, y Gleision, y Gweilch a’r Scarlets – roedden nhw i fod i dderbyn £800,000 yr wythnos hon, yn dalidau am gymryd rhan yn y cwpanau.
Ond, yn ôl y trefnwyr, ERC, yr wythnos nesa’ y bydd y taliadau’n cael eu hystyried ac roedd gan ranbarthau Gymru gynrychiolydd yn y cyfarfod a benderfynodd hynny.
Mae’r cynrychiolydd hwnnw, Stuart Gallacher o’r Scarlets, bellach wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor Ewropeaidd.
Y cefndir
Dyfodol y cwpanau Ewropeaidd yw un o brif achosion y dadlau rhwng y pedwar rhanbarth a’r awdurdodau rygbi yng Nghymru.
Achos arall yw’r cytundebau canolog ar ôl i’r Undeb Rygbi arwyddo capten Cymru, Sam Warburton, cyn dod i gytundeb gyda’r rhanbarthau.
Yn ôl mediawales, mae’r Undeb yn bwriadu gwario arian nawdd ychwanegol ar ragor o gytundebau canolog o’r fath.