Mae rheolwr y Gweilch, Steve Tandy, wedi newid y tîm fydd yn dechrau yn erbyn Sale yng Nghwpan yr LV am 7:30yh nos yfory.
Daw Richard Fussell i’r tîm fel cefnwr yn lle Ross Jones. Bydd Aisea Natoga ar yr asgell chwith a Sam Davies fydd y maswr. Bydd y ddau yn cymryd lle Dafydd Howells a Matthew Morgan.
Yn y rheng-ôl bydd Dan Baker a Lloyd Evans yn dechrau yn lle Morgan Allen a Arthur Ellis. Bydd Scott Baldwin a Nicky Smith yn cymryd lle Matthew Dwyer a Marc Thomas fel bachwr a prop pen rhydd.
Daw’r newidiadau ar ôl canlyniad siomedig yn erbyn Caerwysg y penwythnos diwethaf.
‘‘Yr ydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Benybont nos yfory a gobeithio y cawn groeso cynnes a thorf dda. Mae’r Gweilch wedi cael gemau da ar Gae’r Bragdy ac yr ydym am roi perfformiad da i ddiolch i’n cefnogwyr,’’ meddai Tandy.
‘‘Mae golwg ifanc ar y tîm gyda rhai chwaraewyr profiadol hefyd. Mae gan y rhai ifanc gyfle i ddangos eu doniau ac mae’n rhaid i’r rhai profiadol gymryd y cyfrifoldeb a dangos beth mae bod yn un o’r Gweilch yn ei olygu,’’ ychwanegodd Tandy.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Richard Fussell, Tom Grabham, Jonathan Spratt (Capten), Matthew Jenkins, Aisea Natoga, Sam Davies a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Dan Baker, Lloyd Evans, Tyler Ardron, Rhodri Hughes, Lloyd Peers, Dan Suter, Scott Baldwin a Nicky Smith.
Eilyddion – Matthew Dwyer, Marc Thomas, Joe Rees, Perry Parker, Morgan Allen, Arthur Ellis, Matthew Morgan a Ashley Beck.