Bydd y blaenasgellwr Darren Waters yn ymddangos i’r Dreigiau am y tro cyntaf y tymor yma yn erbyn Newcastle Falcons nos yfory. Bydd y gic gyntaf am 7:45 y.h.
Mae Waters yn dychwelyd i’r tîm ar ôl anafu gewynnau ei ben-elin wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd.
‘‘Byddwn yn hoffi diolch i Lyn (Lyn Jones, Rheolwr y Dreigiau) am roi y cyfle hwn i mi. mae ganddo lawer o ffydd ynof a byddwn yn hoffi profi fy hun iddo. Mae’n gyfle i fi yn awr greu argraff arno a phrofi fy mod yn haeddu bod yn rhan o’r tîm. Yr wyf yn edrych ymlaen at y gêm, a cheisio gwneud yr hyn mae’r hyfforddwr wedi gofyn i ni ei gyflawni,’’ meddai Darren Waters.
Dim ond y cefnwr Dan Fish sy’n cadw ei le ers y penwythnos diwethaf. Will Harries a Hallam Amos sydd wedi gwella o’i anaf fydd yr asgellwyr. Adam Highes a Lewis Robling fydd y canolwyr. Yr Eidalwr rhyngwladol Kris Burton fydd y maswr gyda Jonathan Evans yn dechrau fel mewnwr.
Nathan Williams, Hugh Gustafson a Francisco Chaparro fydd yn y rheng flaen. Matthew Sceech a’r capten Rob Sidoli fydd aelodau’r ail-reng. Jevon Groves, Darren Waters a Ieuan Jones fydd yn dechrau yn y rheg-ôl.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Will Harries, Adam Hughes, Lewis Robling, Hallam Amos, Kris Burton a Jonathan Evans.
Blaenwyr – Nathan Williams, Hugh Gustafson, Francisco Chaparro, Matthew Screech, Rob Sidoli (Capten), Jevon Groves, Darren Waters a Ieuan Jones.
Eilyddion – T. Rhys Thomas, Aaron Coundley, Dan Way, Cory Hill, Nic Cudd, Wayne Evans, Dorian Jones a Ashley Smith.