Mae’n bosib y bydd chwaraewr newydd Gleision Caerdydd, Isaia Tuifua, yn ymddangos am y tro cyntaf dros ei dîm newydd nos yfory ar ôl cael ei enwi fel un o’r eilyddion. Bydd y Gleision yn chwarae yn erbyn yr Harlequins yng nghwpan yr LV ar Barc yr Arfau gyda’r gic gyntaf am 7:05 y.h.

Fe wnaeth y chwaraewr rhyngwladol o Samoa ymuno â’r Gleision yn ddiweddar o Taranaki. Mae’r Gleision yn edrych ymlaen at gêm gwpan dda cyn dychwelyd i gemau’r gynghrair.

Bydd Tom Williams yn symud i safle’r cefnwr gyda Dan Fish wedi ei enwi ar yr asgell, ac mae Richard Smith yn dychwelyd ar yr asgell arall.

Lewis Jones fydd y mewnwr, Gareth Davies yn faswr, Gavin Evans a chwaraewr rhyngwladol ifanc Cymru Owen Williams fydd y canolwyr.

Mae Filo Paulo yn dychwelyd i’r ail reng a daw Macauley Cook i mewn fel blaenasgellwr ochr dywyll.

Mae’r blaenwr Robin Copeland wedi cael ei ryddhau o garfan yr Iwerddon a bydd yn dechrau ar y fainc.

‘‘Mae ein chwaraewyr i gyd yn edrych ymlaen at y gêm gyda nifer o’n chwaraewyr ifanc yn awyddus i ddangos eu doniau. Mae gennym ni nifer o anafiadau a dyma’r tîm cryfaf sydd gennyf erbyn nos yfory,” meddai rheolwr y Gleision, Phil Davies.

‘Mae’r Harlequins yn dîm yr ydwi’n eu hedmygu yn fawr. Maen nhw wedi datblygu math arbennig o rygbi ac wedi gweithio yn galed i fod yn un o dîmau gorau Ewrop. Mae ganddyn nhw garfan gref a bydd y gêm yn dipyn o her i ni,’’ ychwanegodd.

Tîm y Gleision

Olwyr – Tom Williams, Richard Smith, Owen Williams, Gavin Evans, Dan Fish, Gareth Davies a Lewis Jones.

Blaenwyr – Thomas Davies, Rhys Williams, Benoit Bourrust, James Down, Filo Paulo, Macauley Cook, Ellis Jenkins (Capten) a Luke Hamilton.

Eilyddion – Marc Breeze, Sam Hobbs, Scott Andrews, Chris Dicomidis, Robin Copeland, Lloyd Williams, Simon Humberstone a Isaia Tuifua.