Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

Raheem Hanley (Blackburn i Abertawe)

Simon Moore (Caerdydd i Bristol City) ar fenthyg

Lee Lucas (Abertawe i Chesterfield) ar fenthyg

Scott James (Goytre i Gaerfyrddin)

James Bloom (Port Talbot i Drenewydd)

Clecs

Mae Caerdydd mewn trafodaethau â Hamburg ynglyn ag arwyddo’r chwaraewr canol cae Tomas Rincon, gyda chytundeb presennol y gŵr o Venezuela’n dod i ben yn yr haf (Sky Sports)

Gall y golled y mae Caerdydd ei wneud ar Andreas Cornelius redeg i £10m gan gynnwys ei gyflog a bonws arwyddo, os penderfynwn nhw ei werthu yn ôl i Copenhagen (Daily Mirror)

Crystal Palace yw’r clwb diweddaraf i ddangos diddordeb yng ngolwr Cymru Wayne Hennessey, sydd yn wynebu’r posibilrwydd o weddill y tymor ar fainc Wolves os na fydd yn symud erbyn i’r ffenestr gau fory (Croydon Advertiser)

Mae’n ymddangos bod Abertawe wedi gwneud cynnig chwe ffigwr am y chwaraewyr ifanc Stephen Kingsley a Jay Fulton o Falkirk – ond mae Celtic hefyd wedi dangos diddordeb nawr (Daily Record)

Ac yn ôl adroddiadau mae Southampton wedi gwrthod cynnig o £3m gan Abertawe am eu chwaraewr canol cae Jack Cork (sportsmole.com)

Ac ar ôl i Abertawe brynu Adam King o Hearts, mae’n ymddangos fod y clwb o’r Alban eisiau manteisio ar y cysylltiad wrth arwyddo’r ymosodwr Rory Donelly ar fenthyg o’r Elyrch (Edinburgh News)

Mae Bristol City’n ceisio arwyddo golwr Caerdydd Simon Moore ar fenthyg nes diwedd y tymor, gan nad yw’r chwaraewr 23 oed yn cael gêm i’r Adar Gleision (Bristol Post)

Fydd Kevin McNaughton ddim yn cael ymuno â Bolton ar fenthyg bellach oherwydd bod angen yr amddiffynnwr ar Gaerdydd – ond mae dal yn bosib y gwnaiff Joe Mason symud i Stadiwm Reebok (The Bolton News)

Mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell yn ffyddiog y bydd yn llwyddo i arwyddo cefnwr ar fenthyg cyn i’r ffenestr gau, ac yn gobeithio am o leiaf un enw arall (Wrexham Leader)

Y ffenestr hyd yn hyn

Emyr Huws (Man City i Birmingham) ar fenthyg

Adam King (Hearts i Abertawe) ffi heb ei ddatgelu

Jernade Meade (Abertawe i Luton) ar fenthyg

Kenwyne Jones (Stoke i Gaerdydd) cyfnewid

Peter Odemwingie (Caerdydd i Stoke) cyfnewid

Elliot Durrell (Hednesford i Wrecsam)

Jo Inge Berget (Molde i Gaerdydd) ffi heb ei ddatgelu

Jake Cassidy (Wolves i Tranmere) ar fenthyg

Jason Oswell (Rhyl i Airbus UK)

Corey Jenkins (Caerfyrddin i Monmouth Town) ar fenthyg

John Brayford (Caerdydd i Sheffield United) ar fenthyg

Ryan Jones (Bala i Porthmadog) ar fenthyg

Tyrrell Webbe (Caerau (Ely) i Gaerfyrddin)

Mark Crutch (Afan Lido i Ton Pentre)

Ashley Williams (Caer i Airbus UK)

Jason Bertorelli (Cambrian & Clydach i Port Talbot) ar fenthyg

Jordan Follows (Caerfyrddin i Llanelli) ar fenthyg

Nicky Maynard (Caerdydd i Wigan) ar fenthyg

Adrian Cieslewicz (Wrecsam i Kidderminster) ffi heb ei ddatgelu

Lewis Codling (Bala i Gaernarfon) ar fenthyg

Sean Smith (Wrecsam i Gap Cei Connah) ar fenthyg

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Derby i Notts County) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)