Dim dyfodol iddo - Solskjaer
Mae Caerdydd wedi penderfynu cael gwared yr ymosodwr Andreas Cornelius.
Fe wnaeth y cyn reolwr Malky Mackay arwyddo Cornelius o FC Copenhagen am £8.5 miliwn yn yr haf. Erbyn hyn mae tîm y brif ddinas yn barod i’w werthu nôl i’w gyn glwb am £3 miliwn.
Fe wnaeth y rheolwr Ole Gunnar Solskjaer bethau yn eglur nad oedd dyfodol i’r ymosodwr gyda Chaerdydd wrth iddo arwyddo Kenwyne Jones o Stoke a dweud ei fod yn awyddus i arwyddo ymosodwr arall cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau.
Ers ei arwyddo dyw Cornelius ddim wedi dechrau yr un gêm na sgorio gôl i’r clwb ac roedd yn un o’r rhesymau tros y tensiynau rhwng Mackay a’r perchennog, Vincent Tan.
Byddai gwerthu Cornelius yn galluogi’r rheolwr i ddod â wynebau newydd i’r clwb cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau yfory.