Rhys Jones
Ar ôl misoedd o sibrydion a dyfalu mae Leigh Halfpenny wedi penderfynu gadael y Gleision a mynd ar y fferi i Ffrainc. Heb amheuaeth bydd ymadawiad seren Cymru a’r Llewod yn golled enfawr i glwb y brifddinas ond fel gyda nifer o chwaraewyr eraill disglair Cymru – diwedd y gân yw’r geiniog.
Rhaid bellach gofyn a yw’r dydd yn dod pan fydd aelodau’r tîm Cenedlaethol i gyd yn chwarae dros Glawdd Offa neu yn Ffrainc.
Daw penderfyniad Halfpenny i ymuno â Toulon ond ychydig wythnosau ar ôl i ganolwr y Scarlets Jonathan Davies benderfynu symud i Clermont Auvergne y tymor nesaf. Hefyd mae Ian Evans yn gadael y Gweilch am Toulon.
Mae rhywun yn meddwl am eiriau Warren Gatland ar ddechrau ei deyrnasiad pan ddywedodd mai’r chwaraewyr oedd yn chwarae yng Nghymru fyddai yn cael ei flaenoriaeth wrth ddewis carfan. Tybed beth sydd ganddo i’w ddweud erbyn hyn?
Heb amheuaeth nid yw’r anghydfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau yn helpu’r sefyllfa, ac ni ellir beio’r chwaraewyr ifanc dawnus yma am geisio sicrhau eu dyfodol os daw cyfle.
Gorau po gyntaf y gall yr Undeb a’r rhanbarthau osod eu tŷ mewn trefn. Os na fydd trafodaeth adeiladol yn digwydd yn fuan fydd yna ddim i’w drafod.
Torfeydd i ddirywio ymhellach?
Rhaid ystyried hefyd sut y bydd colli’r chwaraewyr disglair a thalentog hyn yn effeithio ar y Rhanbarthau. Ni all neb wadu bod y dorf yn drychinebus o isel yn nifer o’r gemau rhanbarthol ar hyn o bryd, ac mae’n debyg mae lleihau wnaiff y nifer eto os na fydd y ‘sêr’ yn chwarae.
Yn naturiol os na fydd yna dorf, bydd llai o arian yn dod i’r coffrau a thrafferthion ariannol pellach yn dilyn. Ar y llaw arall wrth fod un seren yn gadael mae’n rhoi cyfle i chwaraewr ifanc arall ddangos ei dalent a’i allu ar y cae.
Wrth weld y prif chwaraewyr yn gadael mae llawer o’r farn y byddai’n well ganddynt wylio bechgyn yn chwarae mewn timau lleol yn y cynghreiriau llai na gwylio’r rhanbarthau yn brwydro’n ofer heb y prif chwaraewyr.
Clec i Gymru?
Cwestiwn arall sy’n rhaid ei ofyn yw a fydd y chwaraewyr sy’n gadael rhanbarthau Cymru yn medru cael eu traed yn rhydd i ymarfer gyda’r garfan genedlaethol a bod ar gael i chwarae yn y gemau rhyngwladol.
Pa effaith gaiff hyn ar berfformiadau a chanlyniadau ein tîm cenedlaethol? Amser yn unig a ddengys.
Gyda thîm pêl-droed Caerdydd ar waelod yr Uwch Gynghrair ac Abertawe ar rediad gwael, yn ogystal â bod Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau benben â’i gilydd, nid yw pethau’n dda ar y ddwy brif gamp yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @rhysow.