Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

John Brayford (Caerdydd i Sheffield United) ar fenthyg

Ryan Jones (Bala i Porthmadog) ar fenthyg

Clecs

Mae rheolwr Fulham Rene Meulensteen yn dal i obeithio gallu arwyddo Neil Taylor, ar ôl i Abertawe wrthod cynnig o £4m am y Cymro (WalesOnline)

Ond mae cyn-gapten Cymru Kevin Ratcliffe yn credu y gall Taylor benderfynu ei fod am adael Abertawe er mwyn chwarae’n fwy rheolaidd, ac achub ei yrfa ryngwladol (BBC Sport)

Mae Caerdydd yn gobeithio cwblhau trosglwyddiad yr amddiffynwr Ivan Ramis o Wigan cyn y penwythnos (ibtimes.com)

Dye rheolwr Wrecsam ddim yn credu y bydd yn llwyddo i ddenu’r ymosodwr Andy Mangan yn ôl i’r Cae Ras y mis hwn, er gwaetha’r ffaith fod Mangan ar y cyrion yn Forest Green ar hyn o bryd (Wrexham Evening Leader)

Bydd arwyddo Wilfried Zaha ar fenthyg o Man United yn golygu na all Caerdydd wneud yr un peth gyda Rafael da Silva – felly maen nhw’n bwriadu arwyddo’r cefnwr yn barhaol (Daily Mirror)

Mae Caerdydd yn agosáu at arwyddo trydydd chwaraewr o Norwy ers i Ole Gunnar Solskjaer ddod yn rheolwr, gydag adroddiadau yn Norwy yn honni bod Jo Inge Berget o Molde wedi hedfan draw am braf meddygol (Sky Sports)

Mae Sunderland yn gobeithio y bydd lle yn ffeinal Cwpan Capital One yn ddigon i berswadio’r Archentwr Ignacio Scocco i’w dewis nhw o flaen Caerdydd (Daily Mirror)

Mae rheolwr Bolton Dougie Freedman wedi cadarnhau fod ei glwb mewn trafodaethau ag Abertawe ynglŷn â gwerthu David N’Gog, gyda’r Elyrch yn awyddus i arwyddo’r ymosodwr (fourfourtwo.com)

Mae ymgais Abertawe i arwyddo’r chwaraewr canol cae Abdisalam Ibrahim, a gafodd ei ryddhau gan Man City yr wythnos hon, wedi cael clec ar ôl i’r gŵr 22 oed ddechrau trafod ag Olympiacos (sportsdirectnews.com)

Mae rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh wedi cadarnhau ei fod wedi gwrthod ymgais gan Northampton i geisio’i ddenu i’r Cobblers (South Wales Argus)

Y ffenestr hyd yn hyn

Tyrrell Webbe (Caerau (Ely) i Gaerfyrddin)

Mark Crutch (Afan Lido i Ton Pentre)

Ashley Williams (Caer i Airbus UK)

Jason Bertorelli (Cambrian & Clydach i Port Talbot) ar fenthyg

Jordan Follows (Caerfyrddin i Llanelli) ar fenthyg

Nicky Maynard (Caerdydd i Wigan) ar fenthyg

Adrian Cieslewicz (Wrecsam i Kidderminster) ffi heb ei ddatgelu

Lewis Codling (Bala i Gaernarfon) ar fenthyg

Sean Smith (Wrecsam i Gap Cei Connah) ar fenthyg

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Notts County i Derby) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)