Alun Wyn Jones (PA)
Mae clo Cymru Alun Wyn Jones wedi arwyddo cytundeb newydd i’w gadw gyda’r Gweilch tan ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, gan dewi sibrydion y bydd yntau’n gadael Cymru.
Fe ddywedodd capten y rhanbarth wrth wefan y Gweilch mai dyma oedd y penderfyniad iawn i’w yrfa ar hyn o bryd.
Mae’n cael ei ystyried yn newyddion da i Gymru ar ôl i’r cefnwr, Leigh Halfpenny, ymuno gyda’r llif o brif chwraraewyr sydd wedi gadael am Ffrainc a Lloegr.
Meddai Alun Wyn
“Rwy’n falch iawn o fod wedi datrys fy nyfodol, sy’n golygu y gallaf ganolbwyntio’n llwyr ar rygbi o hyn ymlaen,” meddai Alun Wyn Jones.
“Mae’n neis bod wedi cael cynigion o lefydd eraill, ond ar y pwynt yma yn fy ngyrfa mae fy ffocws i ar fod yn yr amgylchedd iawn er mwyn sicrhau gyrfa hir yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
“Mae’n bwysig i fi mod i’n chwarae’r lefel iawn o rygbi er mwyn sicrhau fy mod ar fy ngorau, ac felly mae’n gwneud synnwyr i mi dderbyn y cynnig gan y Gweilch.”
Gyrfa Alun Wyn
Ers i Jones, sy’n 28 oed, ymddangos gyntaf dros y Gweilch yn 2005 mae wedi chwarae 159 o gêmau i’r rhanbarth, gan sgorio 13 cais, ac mae wedi bod yn gapten ers 2010.
Hyd yn hyn mae wedi ennill 74 cap dros Gymru, gan gynnwys ennill dwy Gamp Lawn yn 2008 a 2012, yn ogystal â chael ei ddewis ar ddwy o deithiau’r Llewod, ble bu’n gapten yn y drydedd gêm dyngedfennol yn Awstralia yn 2013.
Ac yn dilyn y newyddion ddoe fod Leigh Halfpenny am adael y Gleision i fynd i Toulon ar ddiwedd y tymor, roedd y Gweilch yn amlwg yn falch eu bod wedi llwyddo i ddal eu gafael ar eu seren ryngwladol hwythau – am nawr.
Y Gweilch wrth eu bodd
“Fe fydd hyn yn rhoi hwb mawr i bawb yn y rhanbarth, chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, partneriaid masnachol a chefnogwyr,” meddai Rheolwr Gweithrediadau’r Gweilch Andy Lloyd.
“Mae’n arweinydd naturiol, mae’n mynnu’r safonau uchaf i’w hun a phawb yn yr amgylchedd yma, ac fe fydd yn lle gwell o’i gael o gwmpas yn y tymhorau nesaf.
“O ystyried yr ansicrwydd sydd o gwmpas y gêm yng Nghymru’n gyffredinol, rydym ni wedi tawelu meddwl Alun ynglŷn â’i opsiynau yn y dyfodol, ond mae’n newyddion gwych ei fod yn aros yn Stadiwm Liberty.”