Simon Easterby - yn ei ddyddiau'n chwarae (Llun o glawr ei hunangofiant - y Lolfa)
Fe fydd y Scarlets yn rhoi cyfle i wynebau newydd yn eu gêm yng Nghwpan LV yn erbyn Caerloyw nos fory.

Gydag 11 o chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac eraill wedi eu hanafu, mae’r hyfforddwr, Simon Easterby, yn ei weld yn gyfle da i roi prawf ar charaewyr newydd.

Ond fe bwysleisiodd hefyd eu bod yn anelu at wneud yn dda yn y gystadleuaeth a’u bod wedi ymarfer yn galed.

Chwaraewyr dan 20

Ymhlith y chwaraewyr ifanc, mae capten tîm dan 20 Cymru, Adam Warren yn y canol yn cael cwmni ei frawd Aaron, ar yr asgell, ar ôl sgorio naw cais mewn pump gêm i glwb Llanelli.

Krisitan Phillips fydd ar yr asgell arall, Jordan Williams yn genfwr a Josh Lewis ac Aled Davies yn haneri.

Fe fydd dau o chwaraewyr eraill dan 20 Cymru yn ceisio gwneud marc yn y rheng flaen – y prop Rob Evans a’r bachwr Kirby Myhill.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Jordan Williams; Kristian Phillips, Steffan Hughes, Adam Warren, Aaron Warren; Josh Lewis , Aled Davies.

Blaenwyr – Rob Evans, Kirby Myhill, JacobieAdriaanse; Richard Kelly, Johan Snyman; Josh Turnbull (Capten), Craig Price, SioneTimani.

Eilyddion- Darran Harris, Wyn Jones, Horatiu Pungea, Carwyn Jones, Lewis Rawlins, Connor Lloyd, Gareth Owen a Kyle Evans.