Ian Evans - gwaharddiad
Mae clo Cymru, Ian Evans, wedi cael ei wahardd o’r gêm am 12 wythnos.
Mae hynny’n golygu y bydd yn colli’r cyfan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe gafodd chwaraewr y Gweilch ei gosbi mewn gwrandawiad heddiw ar ôl sathru ar ben chwaraewr Leinster, Mike McCarthy, ddydd Sadwrn.
Roedd wedi cael y garden goch am hynny ond yn ôl swyddog barnwrol roedd wedi sathru ddwywaith ar y Gwyddel gan achosi anaf difrifol i’w ben.
Roedd y ddedfryd wedi ei gostwng o 16 wythnos i 12 oherwydd ymddygiad da ac agwedd edifeiriol Ian Evans yn y gwrandawiad.