Owain Gwynedd
Blogiwr rygbi golwg360 Owain Gwynedd sydd yn rhybuddio mai nid yn unig y rhanbarthau sy’n wynebu dyfodol ansicr yn y blynyddoedd i ddod …
Llaw i fyny pwy sydd wedi cael llond bol ar glywed am Undeb Rygbi Cymru, y Rhanbarthau a’r Clybiau yn ffraeo? Ac erbyn hyn, y nifer o chwaraewyr sy’n gadael y wlad i chwarae dramor?
Dwi’n sicr yn un. Bob tro mae pethau yn mynd yn dda mae rhywbeth neu rywun o hyd yn barod i dynnu yn groes a chwalu’r freuddwyd o gael timau rhanbarthol llwyddiannus ynghyd a’r un rhyngwladol.
Y Da
Mae pawb i weld eisiau’r un peth ond methu a chytuno ar y ffordd orau ymlaen. Dim ond wythnos yma mae nifer wedi cael eu clodfori am eu hymdrech dros y flwyddyn ddiwethaf:
- Pencampwyr Y Chwe Gwlad
- Warren Gatland – Hyfforddwr y Flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
- Gatland yn ymestyn ei gytuneb i hyfforddi Cymru nes 2019
- Leigh Halfpenny – ail yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
- Y Llewod – gan cynnwys nifer o Gymru, yn curo Awstralia (2-1)
- Y Llewod – Tîm y flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
- Tîm Rygbi Cymru – Tîm y flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru
Y Drwg
Ond ar y llaw arall, mae’r da yn cael ei ddadwneud a’i danseilio’r un mor gyflym:
- Richard Hibbard – yn ymuno a Chaerloyw
- Stuart Gallagher, Prif Weithredwr Rhanbarthau Cymru – ymddiswyddo o fwrdd y Pro12 a Chwpan Heineken
- Scarlets – benthyciad o £20 miliwn gan Gyngor Caerfyrddin o bosib yn erbyn Rheoliadau Ewrop
- Ansicrwydd dyfodol y Gwpan Heineken a’r Bencampwriaeth Rygbi (cystadleuaeth Lloegr yn parhau)
- Dan Biggar a Gareth Maule yn erfyn ar yr Undeb a’r Rhanbarthau i ddod i benderfyniad gan fod yr holl beth yn effeithio’r chwaraewyr
Yr Ofn
Mae’r trafferthion yma i gyd ar lefel uchaf y gêm yng Nghymru, ond yn fwy pryderus i mi yw’r trafferthion ar lefel sylfaenol ac isaf y gêm.
Fel rhywun sydd yn dyfarnu gemau rygbi yn wythnosol ar hyd a lled y wlad, dwi’n cael cyfle i ymweld â nifer o glybiau a chlustfeinio ar sgyrsiau’r aelodau.
Mae’r stori yn debyg ym mhobman. Mae’r nifer o chwaraewyr rygbi yn gostwng. Wedi gostwng cymaint nes bod llefydd lle’n hanesyddol bu clybiau efo dau neu dri thîm oedolion, tîm ieuenctid a’r adran ieuenctid, bellach ddim ond gyda thîm cyntaf ynghyd a’r tîm ieuenctid ac ambell i dîm yn yr adran ieuenctid.
Gemau yn cael eu gohirio funud olaf gan nad oes rheng flaen neu hyd yn oed tîm ar gael.
Mae o hyd galw am ddyfarnwyr ond mae’r pwll sydd ar gael i weld yn mynd yn llai ac yn llai.
Dwi’m eisiau mynd mor bell a dweud bod rygbi yn marw yng Nghymru ond yn sicr tydi o ddim yn ffynnu.
Mae synnwyr cyffredin yn dweud os yw’r niferoedd i lawr, yna mewn amser bydd llai o chwaraewyr o’r safon uchaf yn dod ar gael i’r rhanbarthau a’r tîm rhyngwladol. Yn anochel, bydd golygfeydd o lwyddiant diweddar y Chwe Gwlad yn mynd yn atgofion y gorffennol fel atgofion y 70au.
Nid bai’r bêl gron
Mae’n rhy hawdd rhoi’r bai ar lwyddiant pêl-droed gan bod siŵr o fod mwy nag un rheswm wedi arwain at ddirywiad y gêm. Er hynny, does dim dwywaith bod llwyddiant y bêl gron wedi cael effaith anferthol – un ai drwy ddwyn sylw athletwyr gorau’r dyfodol neu arian poced y cefnogwyr.
Mae cefnogwyr fel rheol yn eithaf oriog a chefnogi timau pan bod nhw’n llwyddiannus, ac ar hyn o bryd mae dewis gweld Abertawe a Chaerdydd a rhai o sêr y byd pêl-droed yn hawdd mewn cymhariaeth â gweld y rhanbarthau yn colli efo nifer o chwaraewyr sydd rhy wan i’r safon uchaf.
Hefyd roedd ‘na gyfnod lle bu cymdeithas y chwarelwr yn gryf, a rygbi hefyd yn ffrwythlon. Roedd y ddau beth i’w gweld yn bodoli law yn llaw. Gyda dirywiad y pyllau glo fe welwyd dirywiad rygbi yn yr ardaloedd yma hefyd.
Mae dod o hyd i’r holl resymau yn ddadl hir dros beint ond yn ddadl sydd angen digwydd rhyw ben.
Felly rhaid cadw un llygad ar sefyllfa’r gêm ar y lefel uchaf, ond eto peidio ag anwybyddu sylfaen y gamp lle efallai un diwrnod ni fydd sylfaen ar ôl. Mae nifer o gwestiynau i’w hateb a’r rheiny’n fuan.