Nathan Dyer
Mae Nathan Dyer wedi dweud iddo ofni’r gwaethaf wrth iddo gael ei gario oddi ar y cae yn Carrow Road ddydd Sul diwethaf.

Fe wnaeth ddisgyn asgellwr Abertawe ddisgyn yn lletwith ar ei bigwrn ac fe wnaeth amddiffynnwr Norwich , Sebastian Bassong syrthio arno.

‘‘Yr oeddwn mewn poen ofnadwy ac yn meddwl yn sicr fy mod wedi torri fy mhigwrn,’’ meddai Dyer.

Cyn gadael y cae yr oedd Dyer wedi rhoi Abertawe ar y blaen gyda gôl dda.Oherwydd ei anaf bydd Dyer allan o’r gêm am rai wythnosau.

‘‘Ar hyn o bryd, mae gennyf deimladau cymysg.  Yr wyf yn falch nad wyf wedi torri fy mhigwrn ond mae’n gas gennyf golli gemau.  Yr wyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi anfon gair i ddymuno’n dda i mi,’’ ychwanegodd.