Mackay
Doedd rheolwr Caerdydd Malky Mackay ddim yn bresennol yng nghynhadledd i’r wasg y clwb y bore yma.
Yn gynharach roedd y perchennog Vincent Tan wedi dweud wrtho i ymddiswyddo neu wynebu’r sac.
Yn ôl llefarydd mae Mackay yn dal yn ei swydd ac wrthi’n ymarfer gyda’r garfan, ac felly ddim ar gael ar gyfer y gynhadledd arferol i’r wasg cyn y gêm oddi cartref yn Lerpwl amser cinio yfory.
Yr is-reolwr David Kerslake ddaeth i’r gynhadledd i ateb y cwestiynau – ond fe wrthododd ateb unrhyw ymholiad am ddyfodol Mackay.
“Dw i yma i siarad am y gêm yn erbyn Lerpwl, fe ddes i mewn y bore yma a gofynnwyd i mi wneud y gynhadledd i’r wasg,” meddai Kerslake.
“Mae Malky yn y pafiliwn ymarfer fel ydyn ni’n siarad, rydyn ni yma i siarad am y gêm yn unig.”
Pan ofynnwyd i Kerslake a fyddai ef ei hun yn cymryd yr awenau yfory yn lle Mackay, dywedodd nad oedd wedi clywed bod unrhyw drefn wahanol i’r arfer.
“Mae’r chwaraewyr wedi cario ymlaen i wneud eu gwaith. Heb fod yn ddiflas, mae wedi bod yn wythnos arferol.”
Yn ôl Rob Phillips o’r BBC, roedd y clwb wedi gwrthod caniatáu darlledu’n fyw ar gamera neu dros radio o’r gynhadledd, ac wedi gwahardd gohebwyr rhag trydar yn fyw hefyd.
A phan ofynnwyd cwestiynau caletach gan y gohebwyr i Kerslake ynglŷn â dyfodol Mackay, fe gamodd llefarydd y clwb i’r adwy a dweud nad oedd Mackay ar gael i siarad gyda’r cyfryngau.
“Fe wna i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y gêm o bêl-droed yfory,” meddai Kerslake.
Mae disgwyl i gyfarwyddwyr y clwb gynnal cyfarfod brys heddiw i drafod y sefyllfa, gyda Tan yn hedfan draw o Malaysia heno ar gyfer y gêm yfory.
E-bost yn bygwth
Fe gafodd Mackay e-bost gan Tan ddechrau’r wythnos yn rhestru cwynion am y rheolwr – ond fe wrthododd y clwb gadarnhau bodolaeth yr e-bost i’r BBC.
Mae nifer o enwau mawr y byd pêl-droed wedi datgan eu cefnogaeth i Mackay yn dilyn y datblygiadau diweddaraf.
Dydd Llun fe ddywedodd prif weithredwr y clwb Simon Lim mewn datganiad fod Tan “wedi siomi’n fawr” fod Mackay wedi dweud ei fod yn gobeithio arwyddo tri chwaraewr newydd, gan fynnu nad oedd “ceiniog” ar gael iddo wario.
Mae Mackay wedi dweud yn y gorffennol nad yw’n bwriadu ymddiswyddo o’r clwb.