Malky Mackay
Mae rhai o enwau mawr byd pêl-droed wedi cefnogi rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, ar ôl i berchennog y clwb fynnu ei fod yn ymddiswyddo neu gael y sac.

Mae rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, wedi cyhuddo’r perchennog, Vincent Tan, o “wybod dim” am bêl-droed.

Ac mae’r cyflwynydd teledu, Gary Lineker, wedi defnyddio gwefan twitter i ddweud bod y bygythiad yn “anghredadwy”.

Mae cefnogwyr hefyd yn ffyrnig am y newyddion, sy’n dilyn wythnosau o wrthdaro rhwng y rheolwr a’r perchennog o Malaysia, ac mae’r stori ar dudalennau cefn y prif bapurau Prydeinig.

Llythyr e-bost

Mae wedi dod yn amlwg fod Vincent Tan wedi anfon llythyr e-bost at Malky Mackay ddydd Llun yn cwyno am bob math o bethau amdano.

Roedd hynny’n cynnwys ei bolisi prynu chwaraewyr, arddull y chwarae a’i berfformiad yn gyffredinol.

Mae’n debyg ei fod yn arbennig o flin am y gwario ar chwaraewyr tros yr haf ac mae’r dyn y tu cefn i hynny eisoes wedi cael y sac.

Yn ôl yr adroddiadau, roedd Vincent Tan hefyd wedi mynnu bod rhaid i Mackay ymddiswyddo neu gael y sac.

Rodgers yn cefnogi Mackay

Fe fydd Caerdydd yn chwarae Lerpwl oddi cartre’ fory ac mae rheolwr Lerpwl eisoes wedi cefnogi Malky Mackay.

Mewn cyfweliad ym mhapur y Guardian, fe ddywedodd Brendan Rodgers, cyn-reolwr Abertawe, nad oedd Vincent Tan yn “gwybod dim” am bêl-droed. “Dw i’n ffeindio’r siarad am Malky yn anhygoel,” meddai.

Roedd Vincent Tan eisoes wedi ffyrnigo cefnogwyr trwy fynnu bod rhaid i Gaerdydd newid eu lliwiau a’u bathodyn.