Nos yfory fe fydd y Gleision yn croesawu’r Gweilch i Barc yr Arfau.
Ar ôl buddugoliaeth y Gleision yn erbyn Glasgow y penwythnos diwethaf yn y Cwpan Heineken, mae rheolwr y Gleision Phil Davies wedi gwneud pedwar newid i’w dîm i herio’r Gweilch yn y gêm ddarbi.
Mi fydd y rheng-ôl Andries Pretorius a’r canolwr Dafydd Hewitt yn dychwelyd i’r Gleision ond ni fydd y maswr Rhys Patchell yn bresennol oherwydd anaf.
‘‘Rydym yn herio tîm sydd yn llawn chwaraewyr rhyngwladol, felly mi fydd hi’n gêm anodd. Rydym wedi llwyddo i gipio buddugoliaethau pwysig yn ddiweddar, ac yn edrych i adeiladu ar y perfformiadau hynny,” meddai Phil Davies.
Tîm y Gleision
Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Richard Smith, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Gareth Davies a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Macauley Cook, Filo Paulo, Andries Pretorius, Rory Watts-Jones a Robin Copeland.
Eilyddion – Rhys Williams, Thomas Davies, Scott Andrews, James Down, Josh Navidi, Lewis Jones, Gavin Evans a Chris Czekaj.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Sam Davies, Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Ben John, Aisea Natoga, Dan Biggar a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Ryan Bevington, Scott Baldwin, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Sam Lewis, Justin Tipuric a Joe Bearman.
Eilyddion – Matthew Dwyer, Marc Thomas, Dan Suter, Morgan Allen, Tyler Ardron a Tito Tebaldi.